Credwn yn Nuw Dad Hollalluog, Creawdwr a Llywodraethwr pob peth.
Credwn yn Iesu Grist, ei Uniganedig Fab, ein Harglwydd a’n Gwaredwr. Trwy ei fywyd, ei farwolaeth ar y Groes a’i atgyfodiad, gorchfygodd bechod ac angau gan faddau inni ein pechodau a’n cymodi â Duw.
Credwn yn yr Ysbryd Glân. Trwyddo Ef y mae Crist yn preswylio yn y credinwyr, gan eu sancteiddio yn y gwirionedd.
Credwn yn yr Eglwys, Corff Crist a chymdeithas y saint;
yn yr Ysgrythurau sanctaidd, yng Ngweinidogaeth y Gair a’r Sacramentau.
Credwn yn nyfodiad Teyrnas Dduw ac yng ngobaith gwynfydedig y bywyd tragwyddol trwy ein Harglwydd Iesu Grist.
Credwn mai diben pennaf dyn ydyw gogoneddu Duw a’i fwynhau byth ac yn dragywydd.