Clwb 6
Ers y Pasg mae aelodau'r Clwb wedi bod yn dilyn hanes Pedr. Rydym wedi dysgu am Iesu yn maddau i Pedr ar lan y llyn wedi i'r disgyblion ddal 153 o bysgod o dan gyfarwyddyd Iesu. Clywsom am Iesu yn dychwelyd i'r nefoedd at ei dad 40 diwrnod wedi'r Pasg, a Pedr yno yn gweld y cyfan. Rydym hefyd wedi dysgu am ddydd y Pentecost, a'r Iesu yn anfon help yr Ysbryd i'w cynorthwyo i fynd i'r holl fyd gyda newyddion da yr Iesu. I'n hatgoffa ni o ddyfodiad yr Ysbryd cawsom fwyta Prezel. Mae 3 rhan i'r Pretzel - sy'n ein hatgoffa o Dduw, Iesu a'r Ysbryd. |
Cawl a Chymdeithas
Hyfryd oedd dod ynghyd i'r neuadd ar nos Wener, Chwefror 27 i ddathlu bywyd ein nawddsant. Bu Clwb 6 yn cymryd rhan gan ganu rhai o'r caneuon a ddysgwyd yn Clwb 6. Diolch iddynt am eu cyfraniad.
Hyfryd oedd dod ynghyd i'r neuadd ar nos Wener, Chwefror 27 i ddathlu bywyd ein nawddsant. Bu Clwb 6 yn cymryd rhan gan ganu rhai o'r caneuon a ddysgwyd yn Clwb 6. Diolch iddynt am eu cyfraniad.
CLWB 6
Mae Clwb 6 wedi newid noson, o nos Wener i nos Fawrth! Ond yr un ydy'r hwyl wrth i ni ddysgu hanesion o'r Beibl. Rydym wedi bod yn clywed hanes Dafydd y tymor hwn - Dafydd y Bugail, Dafydd yn cael ei ddewis yn frenin, Dafydd y Cerddor Dafydd a Goliath, Dafydd a Jonathan yn ffrindiau .....a mwy! Mae tua dwsin o blant yn mynychu'r clwb a mawr ydy'r hwyl a'r chwerthin wrth gymryd rhan yn y gweithgareddau. |
Clwb 6
Mae'r Clwb wedi dod i ben am y tymor - wedi i'r plant bod yn siopa yng Nghanolfan Canaan - yn ddiweddar buont yn Siop Bwydydd Iach Israel (hanes Daniel a'i gyfeillion yn llys Nechadnosor) ac yn Siop DIY Dothan (hanes Nehemeia yn ail adeiiladu waliau Jerwsalem) Diolch i'r plant am eu cwmni.
Bydd y clwb yn cymryd seibiant dros fisoedd yr haf cyn ail gychwyn ym mis Medi, ond efallai y bydd yn rhaid newid noson oherwydd gweithgareddau sydd gan y plant ar nos Wener - cewch wybodaeth eto am hyn.

Mae'r Clwb wedi bod yn cyfarfod ers hanner tymor Chwefror gan ddilyn thema Canolfan Canaan. Mae'r plant eisoes wedi bod yn clywed hanes Solomon yn siop Tudalennau Tyrus, hanes Eliseus a'r Weddw yn Siop Platiau Persia, hanes Jona a'r pysgodyn mawr yn siop Anifeiliaid Astod, hanes Sul y Blodau yn siop Blodau Bethel, ac yna yn siop Bara Croyw Bethania cafwyd hanes Wythnos y Pasg. Byddwn yn parhau i siopa wedi gwyliau'r Pasg - nos Wener, 6.00p.m. yng nghapel Salem. Ar noson olaf y tymor gwnaed lili'r Pasg gan y plant - gweler y llun. Mae 6 petal i'r lili, yn cyflwyno'r neges Sul y Pasg. Mae Iesu'n fyw |
Dathlu 50 mlynedd ers ennill y frwydr yn erbyn boddi'r Cwm
Brynhawn Sul, Hydref 20fed daeth cynulleidfa gref i'r capel i fynegi eu diolchgarwch am yr hyn ddigwyddodd 50 mlynedd yn ol. Yn ystod yr oedfa anogwyd pawb nid yn unig i ddathlu yr hyn a wnaed yn y gorffennol, ond i adeiladu ar hynny a sicrhau Cymreictod y Cwm, a'r dystiolaeth Gristnogol i'r dyfodol. Ar ddiwedd y gwasanaeth ymunodd pawb i ganu Dros Gymru'n gwlad, O Dad, dyrchafwn gri! cyn ymuno gydag eraill ar sgwar y pentref i gerdded yn symbolaidd trwy'r giat fu'n cadw swyddogion Abertawe allan. Mae un o'r ychydig aelodau o'r pwyllgor amddiffyn gwreiddiol, sef Mr Arwyn Thomas, Llandre yn parhau i arwain yn Llangyndeyrn ac yn flaenor ffyddlon yn Salem.

Plant Clwb 6 yn casglu arianMae llawer o amser wedi mynd heibio ers i blant Clwb 6 fynd o amgylch y pentref yn canu carolau adeg y Nadolig a chasglu arian! Ond ar nos Iau, Mehefin 6ed, 2013 cyflwynwyd siec o £200 gan y plant i gefnogi'r ymgyrch i godi Canolfan arbennig i blant Sir Gaerfyrddin sydd yn wael. Cafodd y plant gyfarfod gydag Eliffant Bandi, sef yr eliffant bach glas sy'n cynrychioli'r elusen. Diolch i bawb fu'n rhan o'r ymgyrch - yn gantorion ac yn drefnwyr!
|
50 mlynedd fel Blaenor!
Cyn oedfa’r prynhawn ar Sul, Tachwedd 18, 2012 daeth aelodau
Capel Salem Llangyndeyrn at ei gilydd dros ginio i ddathlu ac i ddiolch i Mr
Arwyn Richards,Llandre, am wasanaethu fel blaenor yn Salem am 50 mlynedd. Wrth
gydnabod gwerthfawrogiad yr aelodau dywedodd Arwyn gymaint o fendith a gafodd
yn y gwaith, a’r pleser a gai o weld ystod oedran y rhai fyddai’n rhan o’r
addoliad oedd i ddilyn yn y capel.

Dathlu'r Nadolig
Bu plant Clwb 6 yn cymryd rhan yn Oedfa Nadolig Undebol y pentre ar brynhawn Sul, Rhagfyr 16 am 2.00p.m. yn y Neuadd.