Gweddi yn ystod Adfent
Arglwydd, wrth i ni edrych ymlaen at ddyfodiad Geoleuni'r Byd mae ein byd mewn cymaint o dywyllwch. Ffoaduriaid o Syria, Affganistan, Sudan, Irac yn dianc erchylltra rhyfel a thlodi. Pobl diniwed wedi eu lladd gan derfysgwyr sy'n poeni dim am greulondeb didostur. Llywodraeth Prydain yn penderfynu cymryd rhan mewn bomio Syria, a mwy o blant diniwed yn mynd i gael eu lladd. Rydym ni angen dy oleuni di i ymladd y tywyllwch. Tyrd Arglwydd - llewyrcha, a thorri trwy'r tywyllwch. Amen Pasg 2015
Arglwydd Iesu, Ar hyn o bryd rydym fel gofalaeth yn edrych ar 24 awr olaf dy fywyd. 24 awr o ddioddef. Ond 24 awr arweiniodd at gyfamod newydd at fywyd newydd at gyfle newydd i ni a'r holl fyd. Anfon dy Ysbryd i'n cynorthwyo i dderbyn dy holl ras a'th drugaredd a rhannu newyddion da y 24 awr hynny gydag eraill. Amen |
Ebola
Arglwydd, rydym ni'n dychmygu sut fyddai hi yma petai'r haint Ebola yn ein cyrraedd. Rydym wedi gweld dioddefaint Affrica yn sgil hyn ac yn gweddio dros bawb sydd mewn poen, neu mewn profedigaeth oherwydd hyn. Dros y rhai sy'n methu gadael eu cartrefi. Dros y rhai sy'n peryglu eu bywyd er mwyn cynorthwyo eraill. Dros y rhai sy'n ymchwilio ac yn ceisio ateb a meddyginiaeth i ddileu'r pla newydd hwn. Arglwydd, clyw ein gweddi. Amen |
Gweddi dros y merched sydd wedi eu herwgipio yn Nigeria
Arglwydd, Gwarchod hwy. Yn eu hofn, gad iddyn nhw deimlo dy bresenoldeb a'th nerth. Cynorthwya hwy i ddianc os yw hynny'n bosibl - ac mae popeth yn bosibl i ti. Bydd gyda'r holl deuluoedd yn eu pryder. A'r dynion sydd mor benderfynol o gadw merched yn ddi-addysg - fel y bu i Saul weld dy oleuni di ar y ffordd i Ddamascus, boed iddyn nhw hefyd weld eu creulondeb, eu rhyfyg, eu diffyg tosturi yn glir, a newid eu ffordd o feddwl a gweithredu. Atal unrhyw herwgipio pellach, a gad i'r merched ddychwelyd yn ddiogel. Hyn a ofynnwn yn enw Iesu, oedd bob amser yn dangos parch i ferched, Amen |
Un o'r gweddiau a gyflwynwyd yn un o gyfarfodydd y Grawys (trwy ganiatad Cymorth Cristnogol)
Am y rhai fu'n gwylio trosof
y rhai a fu'n fy amddiffyn,
y rhai a fu'n gysgod I mi,
diolch i'r ARGLWYDD, creawdwr nefoedd a daear.
Am y to sy'n fy nghysgodi rhag yr haul,
am y muriau sy'n fy ngwarchod rhag y storm,
am y gwely sy'n fy nghadw'n gynnes yn y nos,
Diolch i'r ARGWYDD, creawdwr nefoedd a daear.
Am yr un sy'n fy nghadw rhag pob drwg,
yr un sy'n cadw fy einioes,
yr un sy'n gwylio fy mynd a'm dod,
diolch i'r ARGLWYDD, creawdwr nefoedd a daear. Amen

Gweddi a gyflwynwyd fel rhan o addoliad rhai o gapeli'r Cwm ar fore Sul Chwefror 23ain, 2014
Dduw Dad, mae pobl pentref Pontyberem wedi eu brawychu gan ddigwyddiadau'r wythnos ddiwethaf.
Rydym yn teimlo tristwch mawr wrth feddwl am farwolaeth Eliza Mae, a hithau ond yn chwe diwrnod oed.
Felly Arglwydd, fe drown atat ti i weddïo dros bawb sydd wedi eu heffeithio gan y drasiedi hon.
Gweddïwn dros y teulu, gan ofyn i ti eu cynnal wrth iddynt alaru am eu plentyn bach.
Ni allwn ond dychmygu yr ing a'r boen sydd yn eu calonnau. Boed i'r cydymdeimlad dwys sydd o fewn y gymuned hon, y gweddïau sydd eisoes wedi eu hoffrymu ar eu rhan, a'r rhai fydd yn cael eu cyflwyno eto, gynnal y teulu bach yn eu profedigaeth. Pan mae ein geiriau a'n gweithredoedd yn annigonol wrth ddelio gyda phrofiadau mawr ac anodd bywyd, fe wyddom ni fod nerth a chymorth i'w gael wrth droi atat ti mewn gweddi.
Gweddïwn hefyd dros bawb sy'n ymwneud â'r achos hwn - yr heddlu, ffrindiau a chymdogion.
Mae dy Air yn ein gwahodd ni i fwrw ein baich ar yr Arglwydd. Mae gennym ni faich dros y rhai sydd yng nghanol y boen a'r braw hwn.
Boed iddynt glywed a phrofi cysur a gobaith Efengyl Iesu Grist.
Boed i dy fraich gref di lapio amdanynt a'u cynnal.
Yn enw Iesu y gofynnwn hyn. Amen

2014
Ein gweddi?
Am gyfle i'th foli a'th wasanaethu
Am weld yr Ysbryd yn llifo i'n plith i'n diwygio
Am weld gwyrth tyfiant yn ein heglwysi
Am ddiwedd i boen pobl yn sgil rhyfeloedd, gorthrwm a chreulondeb pobl at ei gilydd
Am obaith i'r rhai sy'n drwm eu calonnau
Am dy faddeuant a'th ras. Amen

Y Nadolig
Rhown glod i'r mab bychan ar liniau Mair wiwlan,
daeth Duwdod mewn baban i'n byd,
ei ras O derbyniwn, ei haeddiant cyhoeddwn
a throsto ef gweithiwn i gyd.
Arglwydd helpa ni i fod o'r un galon ag awdur y garol hon, a derbyn yr achubiaeth ddaeth i ni trwy'r Iesu aeth i Galfaria drosom ni.
Amen

Yr Adfent
Arglwydd, Paid gadael i ni fod yn rhy brysur! Paid gadael i ni roi yr anrhegion i'n teulu a'n ffrindiau o flaen anrheg ein calon i ti! Paid gadael i ni wledda ar fwydydd y byd, ac anghofio'r bwyd i'n heneidiau! Paid gadael i ni ddiflasu ar y cyfnod hwn oherwydd materoliaeth a phwysau'r byd - ond yn hytrach cadw'n golwg arnat ti, a dy rodd i ni, Iesu Grist, iachawdwr y byd. Diolch, Arglwydd, byth am gofio llwch y llawr Amen |
Trigolion ynysoedd y Philippines
Arglwydd, wrth weld y fath ddinistr,
Wrth weld dioddefaint y bobl sydd wedi colli popeth,
Wrth i'n calonnau wylo gyda'r rhai sydd wedi colli anwyliaid, a'r rhai sy'n parhau i chwilio am rai coll,
Beth allwn ni ei wneud?
Eu cyflwyno i ti, Arglwydd,
a chyfrannu ein harian.
Bydd gyda'r rhai fydd yn mentro allan yno i gynorthwyo - symud ymaith unrhyw rwystrau sydd yn ffordd y gwaith o leddfu angen a phoen.
A gwna ni'n ddiolchgar am ddiogelwch tywydd ein gwlad ni. Amen.
.

Diolchgarwch
Arglwydd, mae "cyfnod y Diolchgarwch" yn dod i ben.
Gwahanol gapeli wedi addurno'r adeilad, ac wedi dod ynghyd i ddiolch i ti.
Ond 'dyw cyfnod diolchgarwch byth yn mynd heibio.
Anfon dy Ysbryd, Arglwydd, i'n hatgoffa o dy haelioni a'th gariad, nid yn unig ar yr adeg yma o'r flwyddyn - ond yn ddyddiol.
Gwna i ni ddangos ein diolchgarwch mewn addoliad cyson, a mewn gwasanaeth i ti, a'th annwyl Fab Iesu Grist, ein Harglwydd a'n Gwaredwr.

Syria
Arglwydd,
beth a ddywedwn?
Rydym wedi ein dychryn gan greulondeb pobl at ei gilydd.
Rydym yn wylo wrth weld cyrff plant yn rhesi llonnydd.
Allwn ni ddim dychmygu byw yn y fath sefyllfa.
Arglwydd, atal y trais.
Arglwydd, gwna i'n gwleidyddion weithredu o blaid heddwch a chymod yn hytrach nag ychwanegu at y broblem gyda'r holl son am fomio pellach.
Arglwydd, cryfha y Cenhedloedd Unedig er mwyn i'r corf hwn wneud gwahaniaeth.
Arglwydd, dymchwel y rhai sy'n achosi'r fath boen i'w cydwladwyr.
Arglwydd, arbed y Cristnogion sy'n dioddef ac yn colli popeth yn y rhyfela.
Arglwydd, mae geiriau yn methu......ond yn ein calon rydym yn eiriol dros bobl Syria.
- y rhai sydd wedi gorfod ffoi o'u cartrefi, a'r rhai sydd yn parhau yng nghanol y trais.

Profiad a Gweddi Gweinidog yn Syria
"I weep for my country! I am so sad and speechless...
"They advise me to leave my country... to emigrate. I respond saying:
"O Lord, hear and answer my prayers."
Please Pray:
+ That the cup of war be taken away from our country, Syria.
+ That the Lord may crush the conspiracy of the evil ones and their war plans... and consider their threats.
+That He may send the power of His Holy Spirit on His church, that it may reach out to the suffering souls who - harassed and helpless - are like sheep without a shepherd.
+That the Lord may help us to speak with great boldness and that many wonders and signs be performed ... and souls return to Christ, and there be singing and praise
+That the Lord may send more help that the house of the Lord may have food to satisfy the needs of the internally displaced, hundreds of whom are without any shelter.
+That the Lord may send more support for the wounded and the sick who need surgery, medication, and healing.
+That the Lord may send those who can help us build a centre for children affected by the war, that we may be able to take care of those who have lost their supporters, and enable them to get back on their feet.+That the Lord may send those who can help our children who are now disabled, and have special needs
trwy garedigrwydd Open Doors

- I'm staying... for the church of Jesus ... that the message of Jesus may remain a light guiding those who are lost and afraid.
- I'm staying... because the harvest is plentiful... and the suffering is huge... a deep wound, a sense of despair ...
- I'm staying ... to follow in the footsteps of my Master who went around doing good and healing all who were under the power of the devil.
- I'm staying... because I'm busy... in the ministry of saving souls (or can someone like me run... Lord give me strength).
"O Lord, hear and answer my prayers."
Please Pray:
+ That the cup of war be taken away from our country, Syria.
+ That the Lord may crush the conspiracy of the evil ones and their war plans... and consider their threats.
+That He may send the power of His Holy Spirit on His church, that it may reach out to the suffering souls who - harassed and helpless - are like sheep without a shepherd.
+That the Lord may help us to speak with great boldness and that many wonders and signs be performed ... and souls return to Christ, and there be singing and praise
+That the Lord may send more help that the house of the Lord may have food to satisfy the needs of the internally displaced, hundreds of whom are without any shelter.
+That the Lord may send more support for the wounded and the sick who need surgery, medication, and healing.
+That the Lord may send those who can help us build a centre for children affected by the war, that we may be able to take care of those who have lost their supporters, and enable them to get back on their feet.+That the Lord may send those who can help our children who are now disabled, and have special needs
trwy garedigrwydd Open Doors
Y Pentecost
Arglwydd,
mae'n anodd rhannu ein ffydd - gydag un person heb feddwl am dyrfa.
Pan ydym ni'n clywed dy alwad i fod yn dystion ym mhob man, fe deimlwn yn ofnus, yn ddiymadferth.
Mae'r dasg yn ymddangos yn rhy fawr, yn rhy anodd, a ninnau heb yr adnoddau angenrheidiol.
Ond edrych ar bethau o'n safbwynt ni a wnawn wrth feddwl felly.
Rwyt ti wedi dweud na wnei di ein gadael heb yr adnoddau angenrheidiol i wneud dy waith - OND
Ac mae'n ond go fawr - OND rhaid i ni beidio dibynnu ar ein nerth a'n gallu ein hunain.
Rhaid gofyn am dy gymorth, dy arweiniad, dy nerth yn yr Ysbryd Glan.
Maddau i ni ein bod yn dibynnu cymaint ar ein hadnoddau ein hunain, heb geisio yr hyn sydd ar gael bob amser gennyt ti, dim ond i ni ofyn.
Gwna ni fel y disgyblion cyntaf, a rho i ni eu profiadau hwy - er clod i ti. Amen

Sul y BlodauArglwydd Iesu,
Rwy'n dy gofio yn dod i mewn i Jerwsalem i sain gorfoledd a dathlu ond rwyf hefyd yn cofio pa mor gyflym y newidiodd pethau, yr ymdeimlad o groeso yn diflannu. Rwy'n hoffi meddwl fy mod i'n wahanol, ond yn fy nghalon rwy'n gwybod nad ydw i ddiim - mae fy ffydd yn gallu bod yn arwynebol, fy ymroddiad yn fyrhoedlog, fy nghariad yn troi o gylch fy hun. Cynorthwya fi i dy wneud yn Arglwydd fy mywyd, i mi barhau i dy wasanaethu di, beth bynnag a ddaw, yn awr a byth bythoedd, er clod i dy enw, Amen |
Grawys 2013Arglwydd, rho i ni gymorth dy Ysbryd dros gyfnod y Grawys.
Arwain ni at dy Air, a gwna ni yn dir da, fel bod y Gair a blennir ynom yn dwyn ffrwyth. Mae hanes dioddefaint yr Iesu yn rhy bwysig i ni ei gymryd yn ganiataol, heb roi amser i fyfyrio, i werthfawrogi oblygiadau y digwyddiadau hynny yn Jerwsalem ganrifoedd yn ol, yn ein bywyd ni heddiw. Bydd llawer yn rhoi gorau i rywbeth dros gyfnod y Grawys - siocled, ysmygu, bisgedi, alcohol. Ond gall y Grawys fod yn gyfnod o wneud yn hytrach na pheidio gwneud - gwneud amser i Ti,trwy weddi a'r Beibl, a gweithredu er budd eraill yn enw Crist. Arglwydd, wrth i ni deithio tuag at Ddydd Gwener y Groglith, wrth i ni feddwl am dy gariad yn anfon dy Fab i farw drosom, planna hedyn newydd o ffydd a gobaith, fel y byddwn, ar Sul y Pasg, yn dathlu bywyd atgyfodedig Iesu, a'r bywyd newydd ddaw i ni drwyddo. Amen . |
|
Gweddi adeg y Nadolig
Arglwydd, mae'r stori mor gyfarwydd.
Rydym wedi canu'r carolau droeon.
Rydym angen cyffyrddiad dy Ysbryd
-er mwyn i ni ryfeddu eto dy fod wedi dod atom ni yn yr Iesu.
-er mwyn i ni deimlo diolchgarwch dy fod yn Dduw llawn gras a thosturi, sydd am i ni gael perthynas gyda thi.
- er mwyn i ni sylweddoli nad digwyddiad ganrifoedd yn ôl mo'r Nadolig, ond profiad ar gyfer heddiw.
Arglwydd, cynorthwya fi i blygu o flaen y preseb ym Methlehem, a chydnabod Iesu yn Arglwydd fy mywyd.
Arglwydd, helpa fi i weld o'r newydd pa offrwm y gallaf fi ei roi i'm Gwaredwr
Iesu, helpa fi y Nadolig hwn i weld o'r newydd mai ti yw fy rhan.