Oedfa Undebol Cymorth Cristnogol
Ar nos Lun Mai 12fed, cynhaliwyd oedfa undebol yng nghapel Tabernacl fel rhan o weithgareddau wythnos Cymorth Cristnogol. Dangoswyd ffilm, a chyflwynwyd rhai o'r prosiectau sydd gan Gymorth Cristnogol i gynorthwyo'r rhai sydd wedi colli cartrefi ac wedi dioddef yn sgil rhyfela yn eu gwlad, yn arbennig yn Ne Swdan, Irac a Colombia.
Diolch i bawb fu'n cymryd rhan ac am y gefnogaeth a gaed mewn casgliadau.

Oedfa'r Nadolig
braf oedd gweld llond capel wedi dod ynghyd ar fore'r Nadolig i ddathlu geni Gwaredwr y byd! Gwnaed casgliad at waith The Smile Train, sy'n darparu triniaethau i blant sy'n dioddef o cleft palate ac sydd, oherwydd eu hanabledd, yn cael eu gwrthod gan gymdeithas mewn rhai gwledydd yn Affrica ac yn yr India. |
Wythnos Cymorth Cristnogol 2013.
Daeth eglwysi cylch Pontiets at ei gilydd ar nos Wener, Mai 11 i addoli ar ddechrau Wythnos Cymorth Cristnogol. Dangoswyd ffilm o'r gwaith a wneir yn Zimbabwe trwy'r arian a gesglir gennym, a chyflwynwyd holl waith yr wythnos mewn gweddi.