Oedfa a Chymdeithas adeg y Nadolig 2016
Cynhaliwyd prynhawn o garolau a myfyrdod cyn y Nadolig a hyfryd oedd dod i awyrgylch y festri wedi i Heulwen addurno'r ystafell gyda goleuadau a chymeriadau'r Geni. O dan arweiniad y Gweinidog treuliwyd awr yn canu carolau, myfyrio a gweddio. Wedi'r addoliad, daethom ynghyd wrth y byrddau i fwynhau disgled a mins pei. Prynhawn bendithiol iawn! Ac yna ar fore'r Nadolig cawsom oedfa fer i ddathlu dyfodiad yr Iesu i'n byd o dan arweiniad y Parchg Catrin Roberts |
Diddosi'r Festri: Erbyn hyn mae'r hen feinciau sydd wedi gwasanaethu'r eglwys am sawl blwyddyn wedi eu clirio a rhoddwyd cadeiriau yn eu lle, a charped ar lawr. Gan fod y gynulleidfa yn agosach at ei gilydd, penderfynwyd addoli yn rheolaidd yn y festri. Prynwyd byrddau symudol i gymryd lle yr hen feinciau.
|
Nadolig 2015 Addoli a Dathlu
Hyfryd oedd dod ynghyd yn ystod yr wythnos ar Ragfyr 16 a chael awr o ganu carolau a myfyrio ar hanes yr Iesu, y Gair a wnaethpwyd yn gnawd. Wedi oedfa fendithiol, daeth pawb ynghyd o amgylch y byrddau yn y festri a mwynhau ambell i mins pei a llawer mwy! Diolch i'r rhai fu'n arwain yr oedfa ac yn paratoi'r wledd. |
DIOLCH - am y Cynhaeaf, ac am y Festri ar ei newydd wedd!
Cynhaliwyd Oedfa o Ddiolchgarwch brynhawn Iau, Hydref 15fed, ac yn dilyn yr oedfa o fawl a diolch, daeth pawb ynghyd i'r festri i fwynhau lluniaeth ysgafn. Mae'r festri wedi ei thrawsnewid bellach, yr hen feinciau wedi mynd a chadeiriau a byrddau ysgafn hwylus wedi dod yn eu lle gan greu ystafell braf a chynnes. Cafwyd sgwrsio a bwyta llawen iawn wrth y byrddau. Diolch i bawb fu'n trefnu. |
Chwiorydd y Dosbarth yn cyfarfod
Braf oedd dod at ein gilydd ar Dachwedd 5ed yn y prynhawn i wrando ar Mrs Gwen Emyr yn cyflwyno hanes y genhades i'r Wladfa, Ms Mair Davies. Croniclir yr hanes yn y llyfr Hyd Eithaf y Ddaear, ond llwyddodd Gwen i gyffwrdd ein calonnau wrth ddarlunio ffydd ac ymroddiad Mair Davies yn rhannu'r Efengyl a gwasanaethu pobl y Wladfa. Wedi'r cyfarfod mwynhawyd croeso cynnes chwiorydd y Drindod wrth y byrddau