PLYGAIN
Eleni eto, bu aelodau Banc y Capel, ynghyd a chymdeithasau lleol eraill, yn cymryd rhan mewn plygain yn eglwys Llandyfaelog ar nos Sul Rhagfyr 14. Thema'r cyflwyniad oedd "yr anrhegion Nadolig nad oes angen disgwyl i'w hagor". Yr oedd elfen o dristwch ar y noson gan mai dyma'r plygain olaf sydd i'w gynnal o dan y drefn hon. Diolch i bawb am gymryd rhan.

Oedfa Cymorth Cristnogol
Brynhawn Sul, Mai 25ain daeth eglwysi'r cylch ynghyd i Gapel Bancycapel i gyd-addoli ac i ddysgu mwy am y prosiectau y bydd casgliadau Wythnos Cymorth Cristnogol yn eu cefnogi - rhai sy'n cynorthwyo pobl sy'n cael eu heffeithio gan drais a rhyfel, yn arbennig felly yn Ne Sudan, Irac a Colombia. Dangoswyd ffilm a chyflwyniad pwynt pwer fel rhan o'r addoliad. Diolch i bawb am eu gwaith yn casglu a chefnogi.

Digwyddiadau
Mae'r aelodau wedi cwblhau eu casgliadau ar gyfer apel Viva Guatemala. Diolch i bawb am eu cefnogaeth.
Plygain
Bu aelodau o gapel Bancycapel yn cymryd rhan yn y plygain blynyddol yn eglwys Llandyfaelog.