Oedfa Nadolig
Dyma lun y bugeiliaid a'r angel ddaeth i oedfa'r Nadolig yng Nghapel Peniel, Foelgastell ar brynhawn Sul, Rhagfyr 21ain. Fel rhan o'r oedfa dangoswyd clip fideo yn adrodd hanes geni'r Iesu a'r angel yn mynd at y bugeiiliaid. Cyn dod at fyrddau'r Parti Nadolig, ymunodd pawb wrth Fwrdd y Cymun gan gyplysu'r Geni gyda'r Groes, o dan arweiniad y Gweinidog. |