Llongyfarchiadau i'r pedwar sydd wedi eu dewis a'u hordeinio yn flaenoriaid newydd!
sef Mrs Eirwen Jones, Mrs Meinir Richards, Mr Meurig JOnes a Dr Goronwy Jones Cynhaliwyd gwasanaeth ordeinio yn Gosen, Llandybie ar Dachwedd 16. Cafwyd gair o brofiad gan y pedwar cyn yr ordeiniad o dan ofal Mrs Margaret Jones, Llywydd y Gymdeithasfa yn y De. Deisyfwn fendith Duw arnoch yn eich gwaith i'r dyfodol. |
LLONGYFARCHIADAU iaelodau'r Ysgol Sul am eu llwyddiant yng nghystadlaethau chwaraeon MIC.
Cyflwyniad Nadolig yr Ysgol Sul
Diolch i bawb fu'n gweithio mor galed i gyflwyno hanes geni'r Iesu mewn ffordd ffres a gafaelgar ar y nos Sul cyn y Nadolig. Trwy ohebwyr prysur sianel deledu arbennig, cawsom glywed am gyffro strydoedd Bethlehem, ac ymweliadau y bugeiliaid a'r doethion. Roedd canu'r plant yn swynol iawn, ac fe gafodd pawb fendith wrth brofi gwefr y Geni unwaith eto. |
Oedfa'r Ofalaeth: Sul olaf o Hydref
Hyfryd oedd bod gyda'n gilydd mewn addoliad o dan arweiniad y Gweinidog a chynrychiolwyr rhai o eglwysi'r Ofalaeth. Defnyddiwyd Gwasanaeth Cenhadol y Cyfundeb a baratowyd eleni gan Mrs Nia Williams, Pwllheli. Rhoddwyd pwylais mawr ar yr Iesu fel Goleuni'r Byd yn yr oedfa, ac hefyd ein cyfrifoldeb ni i fod yn oleuni yn y byd heddiw fel Cristnogion. Addurnwyr y capel yn hyfryd iawn gyda gwahanol arddangosfeydd yn cynnwys lampau a chanhwyllau gan Mrs Wendy Davies. Gwahoddwyd pawb i ymuno wrth Fwrdd y Cymun ar ddiwedd yr Oedfa. |
Taith Gerdded Yr Ysgol Sul:
Medi 17, a hithau'n ddiwrnod braf a'r Ysgol Sul wedi ail-agor wedi gwyliau'r Haf, daeth pawb at ei gilydd i fynd am dro o amgylch Cronfa Ddwr Lliw Isaf, Felindre, Abertawe. Fel y gwelwch o'r lluniau, roedd criw mawr yn cefnogi'r diwrnod, a braf oedd cael rhannu pryd o fwyd gyda'n gilydd ar ddiwedd y dydd. Diolch i'r rhai fu'n trefnu. |
|
Mabolgampau M.I.C
Bu aelodau o Ysgol Sul Llanddarog yn cystadlu yn y mabolgampau yn Neuadd Chwaraeon Caerfyrddin ar nos Fercher, Gorffennaf 13. Daeth pawb oddi yno yn gwisgo medal. Llongyfarchiadau i bawb!
Bu aelodau o Ysgol Sul Llanddarog yn cystadlu yn y mabolgampau yn Neuadd Chwaraeon Caerfyrddin ar nos Fercher, Gorffennaf 13. Daeth pawb oddi yno yn gwisgo medal. Llongyfarchiadau i bawb!
Oedfa deulu Sul cyntaf o Fawrth: Y thema ar ddechrau Mawrth eleni oedd Dewi, Joseia a'r Beibl Byw. Mae 2016 yn flwyddyn ymgyrch y Beibl Byw pryd y cawn ein hannog I roi mwy o le ac amser i'r Beibl yn ein bywyd a sylweddoli pa mor allweddol ydyw yn ein bywyd ysbrydol. Cyplyswyd hyn gyda hanes Joseia yn ail ddarganfod rhan o'r Ysgrythur yn y Deml, a gwaith Dewi a nifer arall o genhedlaeth I genhadlaeth a wnaeth yn siwr na fyddai'r Beibl yn mynd ar goll o'n bywyd fel Cymry. Dio;lch i'r plant am eu cyfraniad i'r oedfa.
|
Cyflwyniad Nadolig yr Ysgol Sul:
Eleni, chwilio am y cerdyn Nadolig perffaith oedd thema cyflwyniad Nadolig y plant a'r ieuenctid, a rhoddwyd cyfle i'r gynulleidfa weld sawl darlun cyn dod i'r casgliad mai llun o'r stabal a golygfa'r geni oedd ei angen, gyda Iesu yn y canol. Diolch i'r plant a'r ieuenctid a'u hathrawon am eu gwaith ardderchog yn canu, llefaru, canu offerynnau cerdd. . Roedd llond capel yno i werthfawrogi'r cyflwyniad a gwnaed casgliad at waith yr ysgol Sul a gwaith Ysbyty Treforys lle bu nifer o'r aelodau yn derbyn triniaeth yn ddiweddar. Ac wrth gwrs, daeth ein ffrind Sion Corn heibio i ddweud helo! |
Diolchgarwch: Cynhaliwyd oedfa ddiolchgarwch i'r teulu oll ar y Sul cyntaf o Hydref. Y thema oedd Diolch + Carwch. Cyflwynodd aelodau Ysgol Sul y Plant sgets y Bwgan Brain a wnaeth i ni sylweddoli y gallwn ddangos ein diolchgarwch am yr hyn a dderbyniwn wrth garu a gwasanaethu eraill. Yr oedd yn gyfle i foli a diolch am holl fendithion Duw.
|
Cyngerdd yr Ysgol Sul: daeth cynulleidfa ardderchog I wrando ar Gor Meibion Taf yn y gyngerdd blynyddol yng Nghapel Newydd. Cyflwynwyd yr elw tuag at waith yr Ysgol Sul ac hefyd at waith adran cardioleg Ysbyty Treforys.
Derbyn bendithion mewn oedfa ac mewn barbeciw!
Ar brynhawn Sul, Gorffennaf 5ed cynhaliwyd oedfa deulu yn diolch I Dduw am 70 mlynedd o waith gan Gymorth Cristnogol. Clywsom am hanes sefydlu'r gwaith, a'r hyn sy'n digwydd heddiw er mwyn ceisio dileu tlodi ac achosion tlodi. Cafwyd eitem gerddorol gan yr Ysgol Sul. Dangoswyd ffilm am y gwaith yn Ethiopia a chyflwyniad pwynt pwer am y gwaith yn Kenya.
Ar ddiwedd y gwasanaeth cafwyd gwledd mewn barbeciw - fe welwch o'r lluniau fel yr oedd pawb yn mwynhau'r danteithion a'r gwmniaeth!

Dathlu bywyd a chyfraniad Dewi
Ar brynhawn Mawrth 1af, yr Ysgol Sul oedd yn ein harwain mewn addoliad wrth i ni ddathlu bywyd ein nawddsant Dewi. Yn ystod yr oedfa cafwyd cyfraniadau cerddorol gan y plant, a dangoswyd ffilm yn adrodd hanes Esther. Bydd yr Iddewon yn dathlu dewrder a gwaith Esther yn achub ei phobl ddechrau Mawrth, a byddwn ninnau fel Cymry yn dathlu gwaith Dewi yn cyfwyno Efengyl Iesu i'w bobl er mwyn iddynt hwythau gael eu hachub trwy'r Groes. Gweinyddwyd Swper yr Arglwydd yn ystod y gwasanaeth. |
DATHLU'R NADOLIG
Roedd digon o hwyl ym mharti Nadolig yr Ysgol Sul ar nos Fawrth, Rhagfyr 30, 2014, gyda' r hen a'r ifanc yn mwynhau gwledd o fwyd a gemau! Gweler y lluniau uchod
Roedd digon o hwyl ym mharti Nadolig yr Ysgol Sul ar nos Fawrth, Rhagfyr 30, 2014, gyda' r hen a'r ifanc yn mwynhau gwledd o fwyd a gemau! Gweler y lluniau uchod
Cyflwyniad Nadolig yr Ysgol Sul
Pleser pur oedd gweld aelodau'r Ysgol Sul ar lwyfan y Set Fawr yng Nghapel Newydd Llanddarog yn canu, actio, canu offerynnau, ac adrodd. Diolch i bawb fu'n cymryd rhan yn y cyflwyniad oedd yn adrodd hanes ceirw Santa oedd wedi mynd ar goll! Ond fe ddaethant i'r golwg, ac ymuno gyda phawb arall wrth grud y baban Iesu.

CLWB IEUENCTID CRISTNOGOL NEWYDD YN YR ARDAL
Mae gwahoddiad i ieuenctid ardal Llanddarog, Llanarthne a Nantgaredig i ddod i gyfarfod anffurfiol i ieuenctid - Clwb Ieuenctid Dyffryn Tywi. Bydd yn cyfarfod yn ysgol Nantgaredig ar nos Sul, ( yn fisol i ddechrau) a'r bwriad yw dangos ffilm a chael tamaid i'w fwyta yn y cyfarfodydd cyntaf, a chyfle i sgwrsio. Sam ac Elen, dau fyfyriwr o Goleg y Drindod yw'r arweinwyr ifanc, yn cael eu cynorthwyo gan eraill. Felly os ydych yn ddisgybl Blwyddyn 7-9, dewch i gyfarfod gyda ieuenctid eraill. Bydd y cyfarfod nesaf m 7.00p.m. ar Dachwedd 2.

DIOLCHGARWCH 2014
Cynhaliwyd gwasanaeth Diolchgarwch o dan arweiniad yr Ysgol Sul a Mrs Angela Skym (yn absenoldeb y Gweinidog oherwydd salwch!) ar ddydd Sul, Hydref 5ed. Casglwyd nwyddau tuag at Banc Bwyd, a byddwn yn parhau i gasglu o Sul i Sul i geisio helpu rhai sy'n cael bywyd yn anodd.

LLONGYFARCHIADAU!
I Eluned ac Isaias Grandis ar eu priodas ddiweddar yn y Wladfa. Cynhaliwyd gwasanaeth bendithio yng nghwmni cyfeillion a ffrindiau yn Llanddarog ar 12fed o Orffennaf, ac roedd canu ardderchog wrth i ni ganu'r emynau yn y Gymraeg a'r Sbaeneg. Pob bendith arnoch yn eich bywyd priodasol. |
|
Bedydd a Barbeciw blynyddol
Roedd Sul Gorffennaf 6ed yn ddwirnod arbennig - diwrnod bedyddio Meirion George, gyda barbeciw allan yn yr haul i ddilyn. Diolch i bawb fu'n rhan o'r oedfa, a'r rhai fu'n paratoi ar gyfer y wledd a ddilynodd. Dyma ychydig o luniau i chi gael blas ar y digwyddiadau! |
Mabolgampau M.I.C
Llongyfarchiadau i ferched Ysgol Sul Llanddarog am ennill y ras gyfnewid yn Mabolgampau M.I.C. eleni, ac i'r unigolion a gipiodd wahanol fedalau. A diolch hefyd i'r athrawon am eu hanogaeth a'u hyfforddiant!

Llongyfarchiadau i Menna a Rhys ar eu priodas ar Ebrill 5ed, 2014, a dymuniadau gorau i chi i'r dyfodol
Dathlu Gwyl Ddewi yng Nghapel Newydd
Brynhawn Sul, Mawrth 2 daeth pawb ynghyd i wasanaeth arbennig, gwasanaeth o dan arweiniad aelodau'r Ysgol Sul yn dathlu bywyd a dylanwad ein nawddsant . Yn ystod y gwasanaeth bedyddiwyd Alys May, a chafwyd cyfle i dderbyn o'r Cymun. Yn y lluniau gwelir rhai o'r plant yn eu gwisgoedd Cymreig, a'r arddangosfa o symbolau Cymreig a baratowyd ar gyfer y gwasanaeth.

I dim Ysgol Sul Llanddarog am eu gwaith yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Cwis Beiblaidd M.I.C.ar nos Wener, Chwefror 14. Clwb Siloam Pontargothi oedd yn fuddugol ond braf oedd gweld merched Llanddarog yn gwneud mor dda. |
Cytûn Llanddarog a’r Cylch – Wythnos Weddi
am Undeb Cristnogol 2014
Agorodd yr wythnos o gyd-addoli gyda gwasanaeth yng nhgapel Bethlehem, Porthyrhyd, gyda gweinidogion yr ardal ac aelodau o’r gwahanol eglwysi yn cymryd rhan. Y pregethwr gwadd oedd y Parchg Ddr John Tudno Williams, Aberystwyth. Cynhaliwyd cyfnod o fyfyrdod a gweddi mewn gwahanol eglwys ar fore Mercher, Iau a Gwener – yng Eglwys Twrog, Llanddarog, Capel Newydd Llanddarog ac Eglwys Y Groes, Pontyberem. Defnyddiwyd y llyfryn a baratowyd gan eglwysi Canada Ffrengig – A aeth Crist yn gyfran plaid? Yn y llun gwelir rhai yn cyrraedd yr oedfa yng Nghapel Newydd |
|
Cyfarfodydd Gweddi Dechrau'r Flwyddyn
Cynhaliwyd oedfa o weddi ar ddechrau'r flwyddyn newydd, y naill o dan arweiniad y Gweinidog a'r llall o dan arweiniad rhai o aelodau'r Gymdeithas. Cawsom ein harwain i weddi wrth ddilyn hanes Solomon ac yna wrth edrych ar batrwm gweddi yr apostolion. Parhawn yn ein gweddiau cyson dros unigolion, sefyllfaoedd lleol a thrwy'r byd, ac wrth gwrs dros Eglwys Iesu Grist.

Oedfa Ddiolchgarwch Deuluol
Brynhawn Sul, Hydref 6ed, daeth yr holl eglwys ynghyd I ddiolch am roddion Duw. Bu'r Ysgol Sul yn cymryd rhan wrth ganu a chyflwyno emynau a gweddiau. Dangoswyd ffilm o hanes Ruth a Naomi ac rhoddwyd cyfle I feddwl am beth fyddai'r ddwy wraig yna yn diolch. Bu hynny'n symbyliad i ninnau feddwl am beth yn arbennig yr oeddem ni fel unigolion am ddiolch i Dduw amdanynt. Yn y llun cyferbyn gwelir gwaith artistig a grewyd yn ystod y gwasanaeth wrth ludo papurau sidan amryliw yn cynrychioli diolch pawb yn y gynulleidfa. Cynhaliwyd dwy oedfa bregethu hefyd i ddathlu'r Diolchgarwch gyda'r Parchg John Tudno Williams yn rhoi neges. |
Oedfa awyr agored a barbeciwDo, fe ddaeth yr haul - a chafwyd cyfle i fwynhau addoliad awyr agored ar brynhawn Sul Gorffennaf 7fed. Aethom am dro i Sychar yn Samaria, a dysgu am y sgwrs a fu rhwng Iesu a'r wraig wrth ymyl Ffynnon Jacob, a chanlyniad hynny wrth i bobl Sychar ddod i gredu yn Iesu fel Gwaredwr y byd. Fel rhan o'r addoliad bu'r plant yn cystadlu i gario dwr o Ffynnon Jacob (Llanddarog!), ac ambell un i gario potyn o ddwr ar eu pen. Wedi'r oedfa cafwyd gwledd o selsig a byrgers wedi eu paratoi gan gogyddion dawnus iawn. Prynhawn hyfryd a bendithiol!
|
Gwasanaeth Teuluol Mawrth 3ydd
Arweiniwyd gwasanaeth i ddathlu a diolch am waith Dewi Sant gan aelodau'r Ysgol Sul, a chafwyd cyfraniad hyfryd ganddynt. Daeth ymwelydd annisgwyl heibio - Owie'r Oen a chyflwyno neges am Dewi.
Oedfa Radio Cymru Chwefror 24ain, 2013
Dyma lun criw o aelodau ifanc Capel Newydd Llanddarog, Capel Cefnberach a Chlwb y Winllan Caerfyrddin, gweinidogion, a gweithwyr o fewn yr Henaduriaeth a ddaeth at ei gilydd i lunio a chyflwyno un o wasanaethau Grawys Radio Cymru. Digwyddodd y recordio yn Neuadd Llanarthne.