BancycapelCyn adeiladu'r capel yn 1834 gan meistri Richard Edmunds a Dafydd Lloyd o
Langydneyrn ynghyd â Thomas Jones, y saer o Fancycapel, cynhaliwyd y gwasanaethau yn y ffermdai cyfagos. Adnewyddwyd y Capel yn 1938 ac o fod yn gapel oedd wedi ei addurno’n syml gan wneud defnydd o bwlpud ail law o Heol Dŵr, gwelir ef ar wedd sydd wedi parhau hyd heddiw. Gyda 30 o aelodau wedi eu cofnodi yn 1834, cyrhaeddwyd uchafbwynt yr aelodaeth, 82, yn 1961. Yn ystod y pumdegau dymchwelwyd yr hen ‘festri fach’ ac aeth aelodau a ffrindiau’r achos o dan oruchwyliaeth y blaenor R H Williams i adeiladu’r festri bresennol. Cafwyd cryn ddefnydd arni yn y 50au, 60au a’r 70au ond gostwng wnaeth y galw am ei defnydd ac erbyn heddiw nid yw’n cyfarfod â gofynion iechyd a diogelwch. Er i’r aelodaeth ostwng i 16 ar hyn o bryd, gwelir canran dda yn bresennol yn yr oedfaon. Melys foethus wledd i enaid dyn gaed yno; Yn hedd blynyddoedd erys atgof wedi amser gilio. |
Capel Jerwsalem, PenygroesYn 1875 agorodd Rees Jenkins ei gartref ym Mryneithin a chynnal Ysgol Sul yno.Gwr arall a fu’n ddylanwadol yn natblygiad Methodistaidd ym Mhenygroes oedd John Richards Gorsddu.
Tyfodd yr achos a chynhaliwyd cyfarfod i adeiladu capel. O ganlyniad cwbwlhawyd adeiladu capel addas i ddal 300 o addolwyr am gost o £500 ac ar Chwefror 24 a 25 1880 fe gynhaliwyd y cyrddau agoriadol. Yn ystod y blynyddoedd dilynol bu cynnydd mawr ym mywyd diwydiannol cylch Penygroes,a chynyddodd aelodaeth capeli’r pentre. Yn1904 cwympodd darn o blastr o nenfwd y capel a gwnaed archwiliad o’r adeilad.Penderfynnwyd gofyn i Mr Lewis Davies, adeiladwr profiadol i ehangu’r capel ac i ychwanegu galeri bob ochr i’r galeri yn y canol.Felly ail adeiladwyd y capel yn 1905. Gwelir 4 carreg sylfaen dyddiedig Tachwedd 11 .1905 yn cofnodi’r ffaith. Heblaw am rai newidiadau bychain ac ychwanegu’r gegin mae’r hen gapel wedi aros bron fel yr oedd. Mae’n rhaid hefyd son am Salem, yng Ngorslas.Sefydlwyd Ysgol Sul yno a bu’n gangen bwysig i Jerusalem am bron 60 mlynedd. |
Peniel Foelgastell (1909)
Dechreuwyd yr Achos ym Mheniel yn wreiddiol fel ysgoldy i Gapel Llanlluan, sydd dair milltir i ffwrdd, fel nad oedd brodorion Foelgastell a'r cylch yn gorfod cerdded yr holl ffordd i Llanlluan dair gwaith ar y Sul, yn ôl eu harfer, yn ogystal ag yn yr wythnos i'r Band of Hope, y Cwrdd Gweddi a'r Ysgol Gân.
Ymhen rhai blynyddoedd, cafodd Peniel ei gysegru fel Capel i'r Methodistiaid Calfinaidd gan y Cyfundeb.
Ymhen rhai blynyddoedd, cafodd Peniel ei gysegru fel Capel i'r Methodistiaid Calfinaidd gan y Cyfundeb.
Soar Pontyberem
Mae hanes Methodistiaeth yn ardal Pontyberem yn cwmpasu’r rhan helaethaf o
dair canrif a’r cofnod ysgrifenedig cyntaf o ddyddiaduron y gwron Howell Harries yn cadarnhau iddo ymweld â’r Seiad yng Nghilcarw ddwy flynedd yn olynol, ym 1742 a 1743. Un cyrchfan oedd ffermdy Cilcarw, ymhlith y cartrefi niferus lle cynhelid cyfarfodydd yn rheolaidd. Roedd y dyhead am gartref sefydlog yn flaenoriaeth gref ac aed ati i gynnal trafodaethau â theulu’r Mortimers o Lanwnda, Sir Benfro i brynu darn o dir ar odre Fferm Cilcarw, ym murmur yr afon Berem, a chytunwyd ar bris o bymtheg punt. Agorwyd yr Hen Soar ym 1834, capel syml unllawr i gychwyn, 37 o aelodau ar y gofrestr a 60 o ddisgyblion yn mynychu’r Ysgol Sul. Arweiniodd twf yn yr aelodaeth at ychwanegu llofft i’r capel ac erbyn 1903, roedd 101 o aelodau cyflawn ar y lyfrau. Rhwng 1879 a 1903 roedd yr Hen Soar dan weinidogaeth y Parchedigion James James, Llanddarog a J.Lloyd Thomas, Llangyndeyrn fyddai’n ymweld â’r achos ym Mhontyberem unwaith bob pythefnos. Teimlid, fodd bynnag, fod y capel mewn man anghyfleus a’r adeilad erbyn hyn braidd yn fach ac ym1901 prynwyd lle capel ar Fferm Cwm Llethryd am £150 ac yn Ionawr 1904 cynhaliwyd cyfarfodydd agoriadol y Soar Newydd, a gynlluniwyd gan y pensaer, y Parchedig Cunllo Griffiths, Pontyberem ac a adeiladwyd gan Mr John Richards, Crwbin ar gost o£1,700. Gweinidog cyntaf y Soar Newydd oedd y Parchedig Huw Edwards M.A. ac o dan ei arweiniad a’i frwdfrydedd codwyd y Festri ym 1907 ar gost o £400 a phrynwyd y cae o flaen y capel am £300. Ym 1944 sefydlwyd y Parchedig Haydn O. John yn weinidog ac ar ei gyfer ef a’i briod yr adeiladwyd Mans. Ers hynny cawsom wasanaeth bendithiol y Parchedigion Victor Thomas, John Ambrose a Trefor Lewis a bellach y Parchedigion Ifan a Catrin Roberts. |
Capel Salem, LlangyndeyrnCliciwch yma os am ddarllen erthygl ar Hanes Salem a luniwyd ar achlysur dathlu 200 mlwyddiant yr achos.
Capel Newydd LlanddarogYn y flwyddyn 1995, o dan arweiniad y Parchedig J Howell Evans, gweinidog yr eglwys, dathlwyd dau gan mlwyddiant yr achos yng Nghapel Newydd. Cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd dathlu, a chyhoeddwyd llyfryn yn olrhain hanes y capel. Ynddo cynhwyswyd enwau a lluniau yr holl gyn-weinidogion sef
Y Parchedig James James 1874-1913 Y Parchedig Stephen Jones 1914 - 1925 Y Parchedig David Jones 1925 - 1944 y Parchedig Dewi Davies 1945 - 1952 Y Parchedig Richard Hughes 1954 - 1976 Y Parchedig W Roydon thomas 1980 - 1981 Cyfrannodd nifer o aelodau'r capel eu hatgofion am weithgareddau'r capel. Ysgrifennwyd y brif erthygl gan Dr Gareth W Evans, aelod selog ac uwchddarlithydd mewn mathemateg pan ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n olrhain hanes Methodistiaeth yn yr ardal a datblygiad yr achos yng Nghapel Newydd. Ymddeolodd y Parchedig Howell Evans yn 2001 ac fe'i dilynwyd gan y Parchedig Trefor Lewis yn 2004, yn cael ei ddilyn wedi ei ymddeoliad ef yn 2010, gan y Parchedig Ifan Rh Roberts, ein gweinidog presennol. Cynhelir oedfa yng Nghapel Newydd bob Sul o'r flwyddyn, yn y prynhawn am 2.00 o'r gloch ar y Sul cyntaf o'r mis, ac yn yr hwyr am 6.00p.m bob Sul arall o'r mis. Gwahoddir gweinidogion a phregethwyr lleyg i lenwi'r pulpud ar y Suliau eraill o'r mis. Rhan anhepgor o'r Sul yw yr Ysgol Sul. Cynhelir yr Ysgol Sul bob bore Sul yn ystod tymor yr ysgol ddyddiol - dosbarthiadau i'r plant a dosbarth i'r oedolion. Cynhelir gwasanaeth teuluol, plant ac ieuenctid yn rheolaidd o dan ofal ein gweinidog - gwasanaeth awyr agored a barbiciw yn yr haf. Mae'r cyflwyniad blynyddol i ddathlu Gwyl y Geni yn wefreiddiol i'r plant yn ogystal ag i'r athrawon a'r rhieni. Bydd y Gymdeithas yn cwrdd bob nos Iau am 7.15 rhwng yr Hydref a dydd Gwyl Ddewi. Bydd y Gymdeithas yn cwrdd i fwynhau rhaglen amrwyiol a diddorol. Mae'r Gymdeithas mewn bod yn ddi-dor ers tua can mlynedd. |
Capel y Dolau, Llanarthne
Mae’n rhyfedd meddwl bod y llyfr Methodistiaeth Sir Gaerfyrddin (Parchg James Morris, Llanstephan) yn nodi bod llinell y L&N Western Railway yn rhedeg heibio i bentref Llanarthne!
Cychwynnodd achos y Methodistiaid Calfinaidd yn Llanarthne fel cangen o gapel Llanddarog ac fe’i sefydlwyd tua 1815. Adeiladwyd capel y flwyddyn honno
ar dir o’r enw y Dolau. Y gweinidog cyntaf oedd y Parchg James James a dderbyniodd alwad yno yn 1874. Magwyd o leiaf 3 gweinidog yn yr eglwys. Gwelwyd
tyfiant yn nifer yr addolwyr wedi diwygiad lleol yn 1859, ac yna yn 1904-5. Yn 1860 adeiladwyd ysgoldy Cefn yr Abbey lle y cynhelid Ysgol Sul a chyfarfod gweddi yn ystod yr wythnos,
Nodir fod rhif yr aelodau yn 1908 yn 53, gyda 48 yn mynychu’r Ysgol Sul.
Erbyn heddiw mae’r aelodaeth yn 27, a cheir oedfaon bendithiol yng nghapel y Dolau o Sul i Sul, cymdeithas gynnes a chyfeillgar, a chyfrannu hael tuag at gynnal tystiolaeth i'r Efengyl yn y pentref.
Cychwynnodd achos y Methodistiaid Calfinaidd yn Llanarthne fel cangen o gapel Llanddarog ac fe’i sefydlwyd tua 1815. Adeiladwyd capel y flwyddyn honno
ar dir o’r enw y Dolau. Y gweinidog cyntaf oedd y Parchg James James a dderbyniodd alwad yno yn 1874. Magwyd o leiaf 3 gweinidog yn yr eglwys. Gwelwyd
tyfiant yn nifer yr addolwyr wedi diwygiad lleol yn 1859, ac yna yn 1904-5. Yn 1860 adeiladwyd ysgoldy Cefn yr Abbey lle y cynhelid Ysgol Sul a chyfarfod gweddi yn ystod yr wythnos,
Nodir fod rhif yr aelodau yn 1908 yn 53, gyda 48 yn mynychu’r Ysgol Sul.
Erbyn heddiw mae’r aelodaeth yn 27, a cheir oedfaon bendithiol yng nghapel y Dolau o Sul i Sul, cymdeithas gynnes a chyfeillgar, a chyfrannu hael tuag at gynnal tystiolaeth i'r Efengyl yn y pentref.