Dyma eglwys gryfaf yr Ofalaeth o ran aelodaeth. Mae’r gynulleidfa yn cynnwys nifer o deuluoedd, ac yn gwasanaethu ardal eang. Roedd yr aelodaeth ddechrau 2012 yn 150. Cynhelir Oedfa Bregeth ar brynhawn Sul am 2.00p.m. ar y Sul cyntaf o’r mis ac am 6.00p.m. ar Suliau eraill y mis. Gweinyddir y Sacrament o Swper yr Arglwydd yn fisol. Cynhelir Ysgol Sul y Plant ac Ysgol Sul i Oedolion ar fore Sul am 10.30a.m.
Yr Ysgol Sul
Mae’r Ysgol Sul fywiog yn cyfarfod bob wythnos ar fore Sul yn ystod tymor yr ysgol o dan arweiniad tim ffyddlon o athrawon a darperir dosbarth ar gyfer y gwahanol oedrannau, o’r plant ieuengaf i ddosbarth oedolion. Defnyddir gwerslyfrau y Cyngor Ysgolion Sul sydd yn mynd â ni trwy storiau’r Beibl, a cheir cyfle i wneud taflenni gwaith, lliwio a gwaith crefft yn ogystal â chwarae ambell gêm. Bydd cyfle i aelodau’r Ysgol Sul i ymuno mewn Oedfaon Teuluol rheolaidd, oedfaon sydd ychydig yn wahanol i’r oedfa bregeth arferol. Adeg y Nadolig cyflwynir sioe o gylch hanes y Geni gan aelodau’r Ysgol Sul, ac yn cynnal cyngerdd blynyddol i godi arian at achosion dyngarol.
Eglwys Fasnach Deg
Mae'r eglwys hon yn cefnogi'r ymgyrch Masnach Deg gan ddefnyddio cynnyrch Masnach Deg yn gyson
yr Ysgol Sul
Cafwyd cyngerdd ardderchog gyda Chor CF11 ar Fedi 24. Aeth yr elw at waith yr Ysgol Sul a Chorwynt Cariad. Diolch am eich cefnogaeth Am fwy o wybodaeth: Marian (01267 275447)
Oedfaon 2018
Y Gymdeithas
Bydd y Gymdeithas yn cyfarfod yn y festri am 7.15p.m. ar nos Iau fis Hydref+Tachwedd a Ionawr - Mawrth . Gwahoddir amrywiol siaradwyr atom, a daw’r tymor i ben gyda noson i ddathlu Gŵyl Ddewi.
Astudiaethau Beiblaidd
Gweler Calendr yr Ofalaeth am fanylion Astudiaethau'r Adfent
YR AWR WEDDI
Byddwn yn cyfarfod fel gofalaeth mewn gweddi am 11.00 y bore ar fore Mercher yn ystod Mehefin a Gorffennaf. Mae'r lleoliadau a'r dyddiadau i'w gweld ar dudalen yr Ofalaeth.