Pam?
Gair poblogaidd iawn yng ngeirfa fy ŵyr dwy oed ar hyn o bryd yw Pam? Waeth beth ydy’r sgwrs, mae’r gair Pam yn siŵr o gael ei le, er enghraifft
(bwyd wedi mynd ar lawr)
Nain: Paid byta hwnna, nghariad i.
Plentyn: Pam?
Nain: Am ei fod o wedi bod ar lawr.
Plentyn: Pam?
Nain: Achos dy fod ti wedi ei ollwng ar lawr!
Plentyn: Pam?
Nain: Wn i ddim, ond mae’n fudr erbyn hyn.
Plentyn: Pam?
Nain: Achos ei fod wedi bod ar lawr
A dyna ni – yn dechrau sgwrsio mewn cylchoedd!!!
Tynnu ar amynedd y rhieni, (a’r mam-gu a’r tad-cu) mae’r cyfnod hwn ym mywyd plentyn. Ond efallai bod angen i ninnau holi ambell i gwestiwn Pam, yn enwedig o gofio fel y mae pobl Cymru yn troi cefn ar y ffydd Gristnogol.
Pam - bod miliynau o bobl yn parhau i gredu yn Nuw ac yn yr Arglwydd Iesu Grist heddiw er yr holl honiadau mai ffwlbri gwirion yw’r cyfan.
Pam - bod cymaint o bobl yn dod i ffydd heddiw, ac yn cychwyn ar fywyd newydd os mai rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol ydyw?
Pam - bod cymaint o bobl yn dal i droi i’r Beibl, ac yn cael y geiriau yn gymorth, yn her, yn sicrwydd, yn arweiniad?
Pam - bod pobl ar hyd a lled y byd yn barod i wynebu erledigaeth. gwarth, carchar, a hyd yn oed marwolaeth (ydy, mae’n digwydd o hyd!) oherwydd eu bod yn ddisgyblion i’r Iesu heddiw?
Pam - wedi’r holl flynyddoedd o gyfyngu ar eglwysi ac addoliad yn Tseina a Rwsia, mae na dyfiant aruthrol yn nifer y Cristnogion?
Pam? Am mai Iesu yw’r Ffordd, y Gwirionedd a’r Bywyd.
Dyna pam!

Dychwelyd / Mynd am y tro cyntaf?
Dros wyliau Awst, cawsom gyfle i wneud rhywbeth y buon ni’n sôn amdano ers symud i’r De Orllewin – ymweld â rhai o draethau Penrhyn Gŵyr a Phenfro.
Beth? Heb fod draw i draethau Penrhyn Gŵyr a Phenfro ac wedi byw am saith mlynedd ym Mhontyberem?! Wel,ie.
Yn rhydd o bwyllgor, dyletswyddau gwarchod plant, angladd a’r angen i sgwennu pregeth, gyda rhagolygon tywydd ardderchog, dyma ddal ar y cyfle.
Ymweld â thraeth Pendine i ddechrau. Roedd y ddau ohonom wedi bod yma fel plant, ond wedi anghofio harddwch a hyd a lled y traeth. Cofio’n nhad yn dweud hanes Parry-Thomas yn torri record cyflymder yma ac yntau’n arwr iddo.
A’r ail ddiwrnod? Rhywle hollol newydd - traeth Rhosili. Cawsom ein gwefreiddio wrth i ni gerdded yn gyntaf i’r penrhyn, ac yna ar hyd y traeth. Doedd hyd yn oed pris parcio yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gallu sbwylio’r ymdeimlad o ymlacio a thawelwch meddwl a geir yma
Dychwelyd i un lle, a mynd i’r lle arall am y tro cyntaf.
Wrth i gapeli ac eglwysi’r fro ail gydio mewn addoliad, astudiaethau, cyfarfodydd gweddi, clybiau plant, Ysgolion Sul….a mwy… yr hydref hwn, mae cyfle i ddychwelyd a dod yn rhan o’r gymdeithas hon. Efallai bod rhai ohonoch heb fod yno ers cyfnod plentyndod, ond dymuniad Duw yw i chi ddychwelyd, ac ail ddarganfod harddwch a her efengyl Iesu, a chlywed eto am arwyr y Ffydd.
Neu efallai bod yr hydref eleni yn gyfle i ddod yn rhan o hyn oll am y tro cyntaf. Mae gwahoddiad taer ar i ni glosio at ein Creawdwr a’n Gwaredwr, i ddysgu ac i addoli, i geisio arweiniad o ran ein bywydau cymhleth.
Beth amdani – dychwelyd neu fynd am y tro cyntaf? Dim ots p’run. Bu i’r dau ddiwrnod yna agor llygaid ni’n dau i’r prydferthwch sydd mor agos atom. Beth am i’r gaeaf yma fod yn gyfle i bawb ohonom ddarganfod prydferthwch yr hyn mae Duw wedi, ac yn ei wneud trosom.
Hosea 6.1 “Dewch! Gadewch i ni droi’n ôl at yr Arglwydd”
Dewch, hen ac ieuainc, dewch
At Iesu, mae’n llawn bryd………
mae drws trugaredd heb ei gau. (Morgan Rhys)

Gorffennaf – mis rhuddygl poeth (horseradish mewn geiriau eraill!)
Er syndod i mi, mae rhai o bobl America wedi dynodi Gorffennaf yn fis rhuddygl poeth! Ac ar ben hynny, mae
Gorffennaf 1af yn ddiwrnod rhyngwladol y ddiod sake
Gorffennaf 3ydd yn diwrnod anufudd-dod (peidiwch dweud hynny wrth eich plant!)
Gorffennaf 7fed yn ddiwrnod dweud y gwir (cofiwch rannu hyn gyda gwleidyddion!)
Gorffennaf 11 yn ddiwrnod gwerthfawrogi gwartheg (sylwer ffermwyr Sir Gâr!)
Gorffennaf 13 yn ddiwrnod French Fries
Gorffennaf 22 yn ddiwrnod yr ‘hammock’ (syniad da!)
Gorffennaf 25 yn ddiwrnod ‘hot fudge sundae’ (mmmm!)
Ond i ni Gymry, onid Gorffennaf 31 yw diwrnod pwysicaf Gorffennaf eleni pan fyddwn yn cofio marwolaeth Hedd Wyn can mlynedd yn ôl ar faes y gad. Dyna ddiwrnod fydd yn ein hatgoffa eto o oferedd rhyfel a’r dioddefaint sy’n dilyn casineb a thrais. Yn ddiweddar gwelsom engreifftiau pellach o hyn yn Llundain a Manceinion wrth i derfysgwyr ladd a niweidio gan beri tristwch.
Oes modd troi pobl oddi wrth gasineb tuag at gariad?
Dywedodd Martin Luther King Junior na all tywyllwch roi diwedd ar dywyllwch, goleuni yn unig all wneud hynny. Ac na all casineb roi diwedd ar gasineb, cariad yn unig all wneud hynny.
Dyfodiad cariad a goleuni Iesu i galon person all eu troi i gyfeiriad newydd.
Un fu’n tynnu cleddyf a bygwth oedd Pedr – ond fe newidiodd pan ddaeth ysbryd Crist i fyw yn ei galon.
Un yn casau Cristnogion oedd Paul, nes iddo gredu’r Efengyl - yna bu’n trefnu casgliadau ariannol i helpu’r anghenus.
Yr unig beth ar feddwl gangiau street fighters Efrog Newydd ddechrau’r 60au oedd anafu a lladd, ond newidiodd hynny wedi i weinidog ifanc, David Wilkerson, ddangos cariad Crist iddyn nhw. (darllenwch The Cross and the Switchblade i ddilyn yr hanes)
Oes angen pennu diwrnod Cariad? Na. Mae pob dydd yn gyfle i gariad ddisodli casineb. Dywed Paul (Rhufeiniaid 12) Gadewch i Dduw newid eich bywyd chi’n llwyr drwy chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau……a..gwnewch bopeth allwch chi i fyw mewn heddwch gyda phawb. Peidiwch mynnu dial ar bobl……trecha di ddrygioni drwy wneud daioni.
Gweddïwn am i’r newid hwn ddigwydd yng nghalonnau terfysgwyr, ac yng nghalonnau pobl ym mhob ran o’r byd.
Awydd sentimental, ond afrealistig? Na – mae grym yr Iesu yn gryfach na dim!.

Ychydig o wres os gwelwch yn dda!
Rydw i’n berson oer. Rwy’n cyfaddef hynny – oer yn gorfforol felly. Ond mae gen i galon gynnes!
Weithiau pan fydd blaenoriaid yn ysgwyd llaw ar ddiwedd oedfa, byddan nhw’n nodi bod fy nwylo yn oer (er yn aml mae yna reswm am hynny – diffyg gwres yn y capel!)
Dydw i ddim yn hapus mynd i’r gwely heb fotel dŵr poeth (a hynny weithiau hyd yn oed yn ystod yr haf er syndod i’r hanner arall. Mae o’n ddigon hapus i gysgu heb hyd yn oed duvet!) Rwy’n dueddol o gau ffenestri wedi iddyn nhw gael eu hagor, a does dim yn well na fi na chael ymlacio a theimlo’r haul yn cynhesu fy esgyrn (os yn bosib yn Ne Ffrainc)
Ydy, mae bod yn oer yn creu tyndra corfforol ac yn fy ngwneud yn bell o fod yn hapus fy myd.
Dydy Duw ddim am i ni fod yn bobl oer o ran ein ffydd. Pan rydyn ni felly, rydym ni’n pellhau oddi wrtho, mae’n diolch yn mynd yn brin, mae’n moliant ni’n dawedog ac mae’n gweithredu ni dros yr Efengyl yn lleihau. Yn hytrach na gallu ymlacio a mwynhau profiadau ysbrydol a’n bywyd fel Cristnogion, mae yna densiwn.
Sut mae Duw am ein cynorthwyo yn hyn o beth?
Trwy roi i ni’r Ysbryd Glân. Nid Ysbryd yn yr ystyr ‘creepy’ mo hwn, ond person anweledig (trydydd person y Drindod) sydd am fod yn rhan o’n bywyd, yn cynhesu ein calonnau gyda chariad a diolchgarwch i Dduw a Iesu, yn rhoi’r awydd i ni addoli yn frwdfrydig, ac i ddarllen Gair Duw a thyfu fel Cristnogion drwy wneud hynny. Darllenwch Lyfr yr Actau yn y Testament Newydd ac fe welwch chi mai trwy ddylanwad Yr Ysbryd Glân y daeth y disgyblion, yn hytrach na bod yn bobl oer o ganlyniad i bryder a thristwch, yn bobl gynnes a hyd yn oed yn boeth dros yr Efengyl, yn genhadon effeithiol a brwydfrydig, gyda llawenydd yr Efengyl yn amlwg yn eu bywyd a’r llawenydd hwnnw yn denu eraill at ffydd yng Nghrist.
Actau 2.38 “Byddwch chi’n derbyn yr Ysbryd Glan yn rhodd gan Dduw”
“Gofynnwch ac fe roddir i chi” – dyna gynnig yr Iesu i ni yn Mathew 7
Gyda’r Pentecost yn agos, mae gennym ddewis – aros yn bobl oer, neu chwilio am y gwres mae’ r Ysbryd yn ei gynnig i ni..

Parti – hwre!?
Dydw i ddim yn cofio i mi gael parti penblwydd erioed pan yn blentyn. Tê bach gyda chacen a chanhwyllau jeli a blancmange, ie, ond parti gyda ffrindiau yn wahoddedigion? Na. Pan ofynnais i mam beth oedd y rheswm dros hyn, dyma hi’n ateb, “Catrin, I let Rhys (fy mrawd mawr) have a party once, and that was enough. I said never again!” A dyna feio fy mrawd am y gwacter hwn yn fy mywyd.
Pan oedd y plant yn fach, fe geisiais i gadw’r dathliadau o dan reolaeth – gwahodd eu ffrindiau gorau i barti yn y tŷ, a digon o gemau a hwyl. Chlywais i mohonyn nhw’n cwyno. Ond erbyn heddiw, a’r genhedlaeth nesaf, dyw parti yn y tŷ yn ddim – rhaid mynd allan, a gwahodd y dosbarth i gyd, neu felly mae’n ymddangos.
Ychydig wythnosau yn ôl, bu’n rhaid i mi fynd yn gwmni i’m hwyres i barti ffrind (4 oed). Cynhaliwyd y dathliad mewn lle chwarae pwrpasol wedi ei leoli mewn hen sied enfawr. Roedd hi’n ddiwrnod oer….na, roedd hi’n ddiwrnod oer iawn, ac oherwydd fod y sied wedi ei wneud o fetal ac yn agored i’r gwynt, roedd hi fel fridge. Doedd y plant ddim yn gallu tynnu eu cotiau oherwydd hyn, a dyna lle roedd rhieni a sawl mam-gu arall yn closio mor agos ag roedd modd at ei gilydd wrth yr ychydig dannau trydan prin oedd o gwmpas y lle. Roedd hi’n brynhawn hiiiiiiiiiir ac er i’r plant fwynhau, roedd y parti yn artaith i’r oedolion.
Mae rhai pobl yn meddwl bod ymwneud â Duw a’r Arglwydd Iesu Grist yn artaith hir a diflas. Ond i’r gwrthwyneb, dywed Efengyl Mathew, pennod 22 “Mae teyrnasiad yr Un nefol yn debyg i frenin yn trefnu gwledd briodas i’w fab”, ac mae’n estyn y gwahoddiad, “Dewch i’r wledd”. Ond yn drist, mae cymaint o’r gwahoddedigion yn gwrthod y gwahoddiad i’r parti hwn.
Peidiwn â chredu’r ‘bad press’ sydd am Dduw a’r Iesu heddiw – rhywbeth i’w fwynhau yw’r bywyd Cristnogol, waeth beth yw eich oed (yn wahanol i bartïon penblwyddi plant pedair oed!!)
Da yw Duw, dewch, canwch, codwch lef,
da yw Duw, fe ddathlwn ni:
da yw Duw, 'does dim amheuaeth gennym,
da yw Duw, hyn wyddom ni. (GRAHAM KENDRICK cyf. VALERIE P. JONES)

Beth sydd mewn enw.
Eryl
Fron Dirion
Gorffwysfa
Madryn
Go brin fod yr enwau uchod yn golygu llawer i chi ddarllenwyr. Ond dyma enw pedwar cartref i mi dros y blynyddoedd. Rhaid ychwanegu pedwar arall at y rhestr, ond enwau llawer llai hudol sydd iddynt, rhai sy’n egluro’n syml i ba ddiben yr adeiladwyd y tai neu’n sy’n nodi eu lleoliad – Tŷ Capel Llanrug, 184 Western Avenue, 133 Whitworth Square ac wrth gwrs Mans Soar.
Ond y pedwar enw cyntaf?
Eryl – tŷ a godwyd gan fy nhaid, yn edrych dros y Felin Goed a sefydlwyd ganddo ef a’i frawd yn Nolgellau. Fy nghartref am 18 mlynedd cyntaf fy mywyd.
Fron Dirion – ein mans cyntaf yn Llanfihangel Glyn Myfyr. Tŷ braf (ond oer!) ar ael bryn yn edrych dros bentref bach, dinod yn Uwchaled. Yno ganwyd y plant.
Gorffwysfa – mans braf ym Mhenrhyndeudraeth. Oedd rheswm dros yr enw Gorffwysfa? Wn i ddim, ond mae’r enw yn dwyn i gof blentyndod y plant.
Madryn – tŷ ar un pen i’r ‘Holy Row’ ym Mhrestatyn (roedd cartref y Tad Pabyddol pen arall i’r stryd, a mans y Presbyteriaid Saesneg yn y canol) Cyn i Brestatyn dyfu mae’n siŵr bod modd gweld y môr oddi yno.
Enwau cartrefi annwyl i mi.
Ond mae enw un cartref yn annwyl i dyrfa yng Nghymru heddiw – Pantycelyn.
Dim ond o glywed yr enw, mae’r meddwl yn troi yn syth at William Williams, y bardd a roddodd fynegiant i brofiadau Cristnogol cymaint o bobl yn ystod y Diwygiad Methodistaidd yn y ddeunawfed ganrif.
Dyma gyfarfod hyfryd iawn, myfi yn llwm, a’r Iesu’n llawn
Gwrthrych ni wêl fy enaid gwan, ond Iesu i bwyso arno’n rhan.
Fe ylch ein beiau i ffwrdd â’i waed, Fe’n canna oll yn wyn.
Calfaria fryn yw’r unig sail adeilaf arno mwy
Ni fethodd gweddi daer erioed â chyrraedd hyd y nef.
Mae bwriad gan Gapel Soar a Chymdeithas Hanes Pontyberem i ddathlu 300 mlynedd geni William Williams mewn cyfarfod yn Soar ar nos Fercher, Mawrth 15fed, 2017, felly cadwch y dyddiad yn glir. Mae’n bwysig nodi’r achlysur, ond rwy’n siŵr y byddai William Williams am i ni wneud mwy na hynny - byddai am i ni heddiw nid yn unig ganu am y profiadau Cristnogol hyn, ond i brofi’r uchod yn ein bywyd ein hunain. Byddai’n ein hannog ni i fynd at Iesu a dweud wrtho, fel y gwnaeth Williams ei hun
Ymddiriedaf yn dy allu

Amser chwarae
Ydych chi’n cofio amser chwarae yn yr ysgol a chriw ohonoch chi’n penderfynu chwarae ‘tick’ neu gêm debyg. Cytuno ar ddau gapten ac yna disgwyl i weld ym mha dîm fyddech chi. Weithiau byddai’r drefn dewis yn golygu siantio ‘eeny meenie….’ (nid heddiw!), neu ‘one potato, two potato, three potato, four….’ Mewn ardaloedd mwy Cymreig na Dolgellau yng nghyfnod fy mlentyndod byddai’r bennill ‘dewis, dewis, dau ddwrn, p’run gymera i ond HWN!’ ar waith. Roedd unrhyw un o’r dulliau uchod yn well na gadael y dewis i fympwy’r capten – y fath embaras pan nad oeddech chi’n cael eich dewis hyd yn oed pan mai dau yn unig oedd ar ôl. Dyna dystio i naill ai eich poblogrwydd neu eich sgil wrth chwarae’r gêm!
Mae’n siŵr na fu bechgyn sgwad pêl-droed Cymru yn sefyll mewn rhes a disgwyl i Chris Coleman a’i gynorthwywyr bwyntio atynt a dweud ‘Ti!’ Mae 29 o’n chwaraewyr gorau wedi cael bod yn rhan o’r paratoi ar gyfer Ewro 2016, a phan ddaw’r gemau bydd yn rhaid dewis tîm o 11 ac eilyddion. A diolch byth bod yna lawer llai o’r hyn a welwyd yn y gorffennol, sef bod chwaraewr yn cael ei ddewis i chwarae dros ei wlad, ac yna’n cyhoeddi nad oedd ar gael. Mae esiampl y gwron Gareth Bale sydd wedi ymroi cant y cant i gynrychioli ei wlad wedi bod yn gaffaeliad yn hyn o beth. Dymuniadau gorau i tîm i gyd.
Mae cyfle i bawb chwarae ar ochr Duw. Ei ddymuniad pennaf Ef yw ein gweld ni, un ac oll, yn cynnig ein hunain i’r tîm, Does dim angen sgil arbennig, dim ond ffydd yn yr Arglwydd Iesu a’i Newyddion Da a pharodrwydd i adael i’r Ysbryd ein hyfforddi o ran ein natur a chyfeiriad ein bywyd. A’r hyn sy’n brifo Duw fwyaf yw ein gweld yn gwrthod y cyfle, neu hyd yn oed yn tynnu mas o’r tîm. Mae Paul yn ein hannog i fod yn debyg iddo:
“Dw i’n rhedeg at y llinell derfyn gyda’r bwriad o ennill! Dw i am ennill y wobr sydd gan Dduw ar ein cyfer ni” (Philipiaid 3.14).

Mae 2016 yn flwyddyn y Beibl Byw!
Fy hoff ddarn o’r Beibl - cliciwch ar y linc isod i glywed pa rannau o'r Beibl sy'n gymorth i eraill http://camustep.cymru/cymraeg/fy-hoff-ddarn-or-beibl/ |
Y Peiriant Golchi Llestri
Mae nhw fel gwenoliaid – yn ffurfio rhes ar ben y weiren telegraff - yn disgwyl.
Am beth dw i’n sôn? Y llestri brwnt sydd yn aml yn fy nisgwyl wedi i mi fod allan am y diwrnod. Ydyn nhw’n disgwyl am i rywun eu golchi? Na, na, dydy hynny ddim yn broblem. Mae ‘na barodrwydd i lenwi’r sinc gyda dŵr a sebon a mynd ati. Y broblem yw’r weithred syml o osod llestri budron yn y peiriant golchi llestri sydd ond ychydig fodfeddi i ffwrdd.
Rhodd oedd y peiriant golchi llestri cyntaf, a rhaid dweud fy mod wedi croesawu’r rhodd yn fawr. Ond mae’r gorchwyl o osod llestri yn y peiriant, ei wagio a chadw’r llestri glân yng nghypyrddau’r gegin yn ormod i rai, a chanlyniad hynny yw’r rhes o lestri, a gweddillion y bwyd arnynt yn raddol galedu.
Dywed y Beibl ein bod ni i gyd angen ein glanhau – mae bryntni, anufudd-dod, pechod, syrthio’n fyr (dim ots pa air ddefnyddiwn ni ) yn anharddu ein bywyd ac yn rhoi loes i ni’n hunain, i’n gilydd ac i Dduw. Does dim modd i ni drochi ein hunain mewn sinc a glanhau ein hunain. Beth sydd ei angen yw glanhad gan yr unig un all gynnig glendid llwyr, Iesu Grist. Dyma neges y Pasg – bod rhodd Duw, yr Iesu croeshoeliedig, atgyfodedig yn cynnig maddeuant i ni.
Ond rhaid bod yn barod i osod ein hunain ym mheiriant golchi ffydd yn Iesu. Ac i wneud hynny rhaid cyfaddef ein bod ni angen ein glanhau a chredu mai Iesu yw’r ateb. Hyd nes y gwnawn ni hynny, aros fel y llestri budron a wnawn ni, er bod gwaredigaeth o fewn ychydig fodfeddi i’n cyrraedd. Dyna drueni fod cymaint ohonom yn dewis aros yn y rhes, yn hytrach na mynd i mewn i’r peiriant.
Hawdd yw canu’r emyn poblogaidd Calon Lân – ond beth am i ni geisio’r galon lân honno trwy Iesu!

Mygiau!
Mae gen i lond silff o fygiau. Ers talwm roedd cwpan i bob aelod o’r teulu yn ddigon (+ y llestri gorau ar gyfer ymwelwyr), ond bryd hynny roeddem ni’n golchi llestri budr yn syth, nid eu gosod mewn peiriant a disgwyl am lwyth llawn cyn pwyso’r botwm.
Pam sôn am fygiau? Am fod agor drws y cwpwrdd mygiau yn agor drws i atgofion lu.
Rhaid agor drws y cwpwrdd mygiau er mwyn cofio’r pethau da. Tybed faint ohonom sy’n gadael y drws i’r gwasanaeth Cymun ar gau, ac oherwydd hynny yn colli allan ar fendithion lu. Beth am i 2016 fod yn flwyddyn o ail bresenoli ein hunain mewn addoliad a Chymun. Nid llestri i’w defnyddio fel llestri ‘visitors’ yw llestri Cymun, ond llestri teulu Duw yn cofio ac yn dathlu, ac mae gwahoddiad i bob un ohonom at y bwrdd hwnnw.

- Myg dathlu chwarter canrif Ysgol y Llys, Prestatyn yn f’atgoffa o ddyddiau difyr addysg cynradd fy mhlant.
- Myg Sion Corn a gafodd fy merch gan ffrind yn yr ysgol feithrin ym Mhenrhyndeudraeth yn dwyn atgofion am gyfeillion Meirionnydd.
- Myg Coleg y Bala yn f’atgoffa o’m cyfnod fel swyddog adnoddau Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru
- Myg sgwâr (amhosib yfed ohono!) a brynwyd ar sêl o siop yng Nghasnewydd – a dyna fi’n ôl yn yr eglwys fach ond cynnes a fu dan fy ofal cyn symud tua’r Gorllewin.
- Myg Nain – anrheg Nadolig gan blant bach Sir Fôn, a’r holl atgofion sy’n dod yn sgil yr hoff enw hwnnw.
Rhaid agor drws y cwpwrdd mygiau er mwyn cofio’r pethau da. Tybed faint ohonom sy’n gadael y drws i’r gwasanaeth Cymun ar gau, ac oherwydd hynny yn colli allan ar fendithion lu. Beth am i 2016 fod yn flwyddyn o ail bresenoli ein hunain mewn addoliad a Chymun. Nid llestri i’w defnyddio fel llestri ‘visitors’ yw llestri Cymun, ond llestri teulu Duw yn cofio ac yn dathlu, ac mae gwahoddiad i bob un ohonom at y bwrdd hwnnw.
Dynion doeth ac Angylion?
Chefais i erioed fy nymuniad adeg y Nadolig fel plentyn - ond cyn i chi wylo mewn cydymdeimlad, cyfeirio at fy nymuniad adeg gwasanaeth Nadolig y plant ydw i, nid at anrhegion. Bob blwyddyn fy ngobaith oedd cael bod yn un o’r doethion, am fy mod yn ffansïo’r dillad crand, y coronau aur, a’r syniad o gerdded yn osgeiddig tra’n pwyntio at y seren cyn penlinio gerbron y crud. Ond na – bechgyn (a dim ond bechgyn bryd hynny) a rheiny yn llawer talach nag y byddwn i weddill fy mywyd, oedd yn cael y rhannau hynny. Un o’r llu angylion fyddwn i (!) fel arfer er i mi fod yn Mair unwaith a hynny achos bod angen canu cân benodol, a dim ond fi oedd yn gallu ei chanu!
Mae’r Nadolig yn nesáu. O blith cymeriadau hanes taith y doethion i Fethlehem, tybed i bwy yr ydym ni’n ymdebygu o ran ein hagwedd at Iesu
Nid cyfle i chwarae rhan sy’n dod i ni adeg y Nadolig, ond cyfle real i fod yn ddoeth, i fynd at y preseb a chyflwyno’n hunain o’r newydd i’r un y mae ein tragwyddoldeb yn ei law.
Frodyr (a chwiorydd!), dewch,llawenhewch,
Diolchwch iddo, byth na thewch! (Dafydd Jones)

- Ai i’r doethion sydd mor barod i gydnabod yr un gafodd ei anfon gan Dduw i’r byd? Do, rhoddodd y rhain amser i ddod i bresenoldeb y Meseia a phlygu gerbron yr un sy’n ymgorfforiad o gariad a maddeuant Duw.
- Yn y palas wedyn mae Herod yn chwyrn ei gasineb a’i wrthwynebiad i’r Iesu. Oes -mae mwy nag un Richard Dawkins wedi bod yn y byd!
- A thrigolion Jerwsalem wedyn – yn gwybod am eni’r Meseia ym Methlehem oherwydd i’r newyddion ledaenu fel tân gwyllt wedi ymholiadau’r doethion, ond yn rhy apathetic i deithio’r ychydig filltiroedd i lawr yr hewl i Fethlehem i’w gydnabod. Oni fydd sawl Bethlehem, Bethel, Soar, Caersalem yn rhy bell i ni ystyried fynd iddynt eleni?
Nid cyfle i chwarae rhan sy’n dod i ni adeg y Nadolig, ond cyfle real i fod yn ddoeth, i fynd at y preseb a chyflwyno’n hunain o’r newydd i’r un y mae ein tragwyddoldeb yn ei law.
Frodyr (a chwiorydd!), dewch,llawenhewch,
Diolchwch iddo, byth na thewch! (Dafydd Jones)
Bywyd Pedr 5
Dyna ffodus ydych chi!
Dylwn i ddim bod yn genfigennus achos dw i’n gwybod am y gorchymyn ar i ni beidio â chwennych – ond dyna ffodus fuoch chi dros yr wythnosau diwethaf yma yn cael dilyn Pencampwriaeth Rygbi’r Byd.
Doedd rygbi ddim yn bod yn fy nyddiau i – er bod sawl un wedi awgrymu y byddwn i wedi gwneud Rhif 8 reit dda! Ond dwi wedi bod yn rhan o dîm, ac wedi bod yn gapten. Fe welais i dîm Iesu yn cadw’n ffit trwy weddi, addoliad a darllen Gair Duw. Fe welais i bobl oedd wedi eu hanfon i’r ‘sin bin’ yn dod mas ac yn ymuno yn y gwaith gyda chalonnau newydd. Pobl ag anafiadau ? (druan ohonoch chi fel Cymry), cawson nhw eu hadfer. Ac fe gafodd wn i ddim faint o bobl eu trosglwyddo o un tîm i’r llall wrth glywed am gariad a gras Duw yn Iesu. Aethon ni ar sawl taith rhannu’r newyddion da dramor– bobl bach, dyna antur!
Mae wedi bod yn braf gweld y timau ‘bach’ yn dod ymlaen i herio’r mawrion. Dydy’r timau hyn ddim wedi aros yn eu hunfan ers y Bencampwriaeth ddiwethaf, ond wedi hyfforddi’n galetach, dysgu mwy o sgiliau a mentro. Ac mae brwdfrydedd ac argyhoeddiad y timau llai hyn wedi bod mor amlwg wrth iddynt ddod i’r cae. Dim ond tîm bach oeddem ni ar y dechrau, ond fe roddodd yr Ysbryd Glân y fath frwdfrydedd i ni, fel ein bod wedi cynrychioli’r Arglwydd yn Jerwsalem, Jwdea, Samaria, a hyd eithaf y ddaear. Dw i wedi clywed pobl yn dweud bod gan dîm Cymru 16 aelod – y 15 ar y cae, a’r dorf y tu cefn iddynt. Roedd gennym ninnau aelod ychwanegol yn y tîm hefyd – yr Ysbryd Glân.
Dw i’n gweld eich bod chi fel tîm natur colli calon ar hyn o bryd. Peidiwch, da chi – daliwch ymlaen i gael eich hyfforddi a chwarae hyd eithaf eich gallu. Datblygwch dactegau newydd. Fe ddaw buddugoliaeth!
Buddugoliaeth i’n Duw ni, sy’n eistedd ar yr orsedd, ac i’r Oen! Datguddiad 7.10

Bywyd Pedr 4
A ninnau yng nghyfnod y Grawys 2015 meddyliwn am yr adnodau hyn o Efengyl Marc 14 (Mathew 26:36-46; Luc 22:39-46) 32 Dyma Iesu'n mynd gyda'i ddisgyblion i le o'r enw Gethsemane. “Eisteddwch chi yma,” meddai wrthyn nhw, “dw i'n mynd i weddïo.” 33 Aeth a Pedr, Iago ac Ioan gydag e, a dechreuodd brofi dychryn a gwewyr meddwl oedd yn ei lethu. 34 “Mae'r tristwch dw i'n ei deimlo yn ddigon i'm lladd i,” meddai wrthyn nhw. “Arhoswch yma a gwylio.” 35 Aeth yn ei flaen ychydig, a syrthio ar lawr a gweddïo i'r profiad ofnadwy oedd o'i flaen fynd i ffwrdd petai hynny'n bosib. 36 “ Abba! Dad!” meddai, “Mae popeth yn bosib i ti. Cymer y cwpan chwerw Ref yma oddi arna i. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.” 37 Pan aeth yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw'n cysgu. A meddai wrth Pedr, “Simon, wyt ti'n cysgu? Allet ti ddim cadw golwg am un awr fechan? 38 Cadwch yn effro, a gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi'ch profi. Mae'r ysbryd yn frwd, ond y corff yn wan.” 39 Yna aeth Iesu i ffwrdd a gweddïo'r un peth eto. 40 Ond pan ddaeth yn ôl roedden nhw wedi syrthio i gysgu eto — roedden nhw'n methu'n lân â chadw eu llygaid ar agor. Doedden nhw ddim yn gwybod beth i'w ddweud. 41 Pan ddaeth yn ôl y drydedd waith, meddai wrthyn nhw, “Dych chi'n cysgu eto? Dal i orffwys? Dyna ni, mae'r foment wedi dod. Dw i, Mab y Dyn, ar fin cael fy mradychu i afael pechaduriaid. 42 Codwch, gadewch i ni fynd! Mae'r bradwr wedi cyrraedd!” Meddyliwn: Digon hawdd gweld bai ar Pedr a'i ffrindiau am gysgu, ond pa mor aml y cawn ein hunain yn teimlo'n rhy flinedig i dreulio amser gyda Duw, neu i wneud rhyw waith dros ein Harglwydd yn fwy na mynychu un oedfa ar y Sul? Pa mor aml ydym ni'n methu'n lan a chadw ein llygaid ar agor i weld angen y byd, ac unigolion o'n hamgylch ac ymateb i hynny? Fe ddeffrodd Pedr- a chyflwyno ei fywyd mewn gwasanaeth i Iesu. Gweddi Arglwydd, maddau i ni ein bod ninnau fel Pedr yn 'cysgu eto' ac yn 'dal i orffwys'. Wrth i ni symud tuag at y Pasg, anfon dy Ysbryd i'n deffro i dy gariad rhyfeddol. Amen |
Bywyd Pedr 3
Dyma Iesu'n mynd i gartref Pedr. Yno gwelodd fam-yng-nghyfraith Pedr yn ei gwely gyda gwres uchel.15 Cyffyrddodd Iesu ei llaw hi a diflannodd y tymheredd oedd ganddi, a dyma hi'n codi o'i gwely a gwneud pryd o fwyd iddo.
16 Pan oedd hi'n dechrau nosi dyma bobl ddod â llawer iawn o rai oedd yng ngafael cythreuliaid at Iesu. Doedd ond rhaid iddo ddweud gair i fwrw allan yr ysbrydion drwg a iacháu pawb oedd yn sâl.17 Felly dyma beth ddwedodd Duw drwy'r proffwyd Eseia yn dod yn wir:
“Cymerodd ein gwendidau arno'i hun,
a chario ein hafiechydon i ffwrdd.” Mathew 8.
Meddyliwn
am y rhai sy'n wael - yn gorfforol ac yn feddyliol, mewn ysbyty a gartref
am yr hyn y byddwn yn ei gofio ar ddydd Gwener y Groglith. I Iesu farw er mwyn iachau'r pechod sydd yn ein calonnau ni, bob un ohonom.
Gweddi:
Arglwydd, rwy'n cyflwyno ...............................................(enw unrhyw rai y gwyddom amdanynt sydd mewn gwaeledd) i dy ofal di. Fel Pedr, mae gennym ni gonsyrn dros ein hanwyliaid.
Rwyf hefyd yn cyflwyno fy hun i ti, gan ddiolch I ti am gariad ac aberth Iesu Grist. Rwy'n dod ger dy fron mewn edifeirwch, ac yn gofyn am gymorth dy Ysbryd i fyw fel yr wyt ti am i ni fyw. Amen

Bywyd Pedr 2
Roedd Iesu'n teithio ar hyd a lled Galilea, yn dysgu'r bobl yn y synagogau, yn cyhoeddi'r newyddion da am deyrnasiad Duw, ac yn iacháu pob afiechyd a salwch oedd ar bobl. 24 Daeth Iesu'n enwog y tu allan i Galilea, ac roedd pobl o bob rhan o Syria yn dod â phawb oedd yn sâl ato — pobl oedd yn dioddef o afiechydon gwahanol, neu mewn poen, eraill yng ngafael cythreuliaid, yn dioddef o ffitiau epileptig, neu wedi eu parlysu. Iachaodd Iesu nhw i gyd. 25 Roedd tyrfaoedd o bobl yn ei ddilyn i bobman — pobl o Galilea, y Decapolis Ref , Jerwsalem a Jwdea, ac o'r ochr draw i Afon Iorddonen (Mathew 5>23-25)
Meddyliwch:
am ddiwylliant y celebs sy'n bodoli heddiw o'i gyferbynu gyda phoblogrwydd Iesu yn ei gyfnod
am sefyllfa Syria heddiw ar ddechrau 2014
am gleifion yr ydych yn eu hadnabod
Gweddi: am I bobl weld yr Iesu mewn goleuni newydd y flwyddyn hon, a dechrau ei ddilyn trwy arweiniad yr Ysbryd. Am I ni weld tyrfaoedd yng Nghymru unwaith eto yn rhyfeddu at waith achubol Iesu a gweithio drosto.

Bywyd Pedr 11. Pan oedd Iesu'n cerdded wrth Lyn Galilea, gwelodd ddau frawd, Simon ac Andreas. Pysgotwyr oedden nhw, ac roedden nhw wrthi'n taflu rhwyd i'r llyn. “Dewch,” meddai Iesu, “dilynwch fi, a gwna i chi'n bysgotwyr sy'n dal pobl yn lle pysgod.” Heb oedi dyma'r ddau yn gollwng eu rhwydi a mynd ar ei ôl. Ychydig yn nes ymlaen gwelodd Iago ac Ioan, dau fab Sebedeus. Roedden nhw wrthi'n trwsio eu rhwydi yn eu cwch. Dyma Iesu'n eu galw nhw hefyd, a dyma nhw'n gadael eu tad Sebedeus gyda'r gweision yn y cwch a dechrau dilyn Iesu.
2. Dyma Iesu'n gadael y synagog ac yn mynd i gartref Simon. Yno roedd mam-yng-nghyfraith Simon yn sâl iawn gyda gwres uchel. Dyma nhw'n gofyn i Iesu ei helpu hi. Meddyliwch: am eich bywyd personol, eich teulu, eich gwaith, eich cyd-weithwyr. Gweddi: Diolchwch am fendithion eich bywyd personol presennol. Cyflwynwch unrhyw bryderon neu eiriolaeth dros aelodau o’ch teulu neu gydweithwyr. |
Addewid Iesu
Ioan 15:
16 Bydda i'n gofyn i'r Tad, a bydd e'n rhoi un arall fydd yn sefyll gyda chi ac yn aros gyda chi am byth — 17 sef yr Ysbryd sy'n dangos y gwir i chi. Dydy'r byd ddim yn gallu ei dderbyn am fod y byd ddim yn ei weld nac yn ei nabod. Ond dych chi yn ei nabod am ei fod yn sefyll gyda chi ac am ei fod yn mynd i fod ynoch chi.
Beth ydy fy mhrofiad i o'r Ysbryd Glan?
Ydw i'n ceisio cymorth yr Ysbryd I ddeall y Beibl - neu yn ymlafnio i'w ddeall yn fy nerth fy hun, ac yn ei weld yn anodd a chymleth?
Ydw i'n credu addewid Iesu, neu a ydw i fel y byd - dim yn gweld nac yn adnabod yr Ysbryd?

Pasg 2013
Y milwyr yn gwatwar Iesu
(Marc 15:16-21; Ioan 19:2,3)
27 Dyma filwyr Rhufeinig yn mynd â Iesu i'r palas (Pencadlys y llywodraethwr), a galw'r holl fintai i gasglu o'i gwmpas. 28 Dyma nhw'n tynnu ei ddillad a rhoi clogyn ysgarlad amdano, 29 plethu drain i wneud coron i'w rhoi ar ei ben, rhoi gwialen yn ei law dde a phenlinio o'i flaen a gwneud hwyl am ei ben. “Eich mawrhydi! Brenin yr Iddewon!” medden nhw. 30 Roedden nhw'n poeri arno, ac yn ei daro ar ei ben dro ar ôl tro gyda'r wialen. 31 Pan oedden nhw wedi blino cael sbort, dyma nhw'n tynnu'r clogyn oddi arno, a'i wisgo yn ei ddillad ei hun unwaith eto. Wedyn dyma nhw'n ei arwain allan i gael ei groeshoelio.
Beth wyt ti'n ei wneud trwy dy fywyd - gwatwar neu anrhydeddu Iesu?
Beth wnei di y Pasg hwn - bodloni ar fwyta wyau siocled?