Sul Sbesial!
Cafwyd oedfa arbennig iawn yn neuadd Pontyberem ar fore Sul, Gorffennaf 9fed. Roedd y neuadd o dan ei sang gydag aelodau capeli Sir Gaerfyrddin yn cyd-addoli. Trefnwyd bws mini I gludo pobl o'r maes parcio i'r neuadd. Byw'r Beibl oedd thema'r oedfa a chafwyd neges arbennig gan Dr Owain Edwards, sydd yn feddyg teulu ym Mhenrhyndeudraeth, ond sydd hefyd yn arwain gwaith plant ac ieuenctid yng Ngholeg y Bala. Owain a rhai o'i ffrindiau arweiniodd y mawl hefyd. Cawsom ein herio nid yn unig i wrando ar eiriau'r Iesu, ond hefyd i ymateb iddynt a gwneud yr hyn mae Iesu yn ei ddweud wrthym. Gwnaed casgliad tuag at waith Cymorth Cristnogol. Wedi'r oedfa bu'r gegin yn hynod o brysur wrth i'r addolwyr gymdeithasu dros baned. |
Hwyl y Pasg
Cafwyd diwrnod o hwyl, addoli, dysgu a chwmni yn ysgol Gruffydd Jones, San Cler ar ddydd Sadwrn, Mawrth 28 o dan arweiniad Nigel Davies, MIC. Hanes Jona oedd sail y gweithgareddau. Cawsom hefyd ystyried aberth Iesu ar y groes a chariad mawr Duw tuag atom. Cyn troi am adre, da oedd cael mwynhau pryd o sglodion gyda'n gilydd. |
Cyfle i Blant Clybiau Sir Gaerfyrddin ddathlu'r Pasg
Mae MIC yn trefnu diwrnod o weithgareddau i blant yr ardal yng Ysgol Gruffydd Jones, San Cler ar ddydd Sadwrn cyntaf gwyliau'r Pasg, Mawrth 28. Bydd bws ar gael i gludo'r plant o Cross Hands a Chaerfyrddin (am ddim). Bydd angen bwyd ar gyfer cinio ond bydd pawb yn mwynhau sosej chips i swper cyn troi am adre. Bydd y diwrnod yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau yn seiliedig ar hanes a neges y Pasg. Os am fwy o wybodaeth, cysyllter gyda Nigel Davies 01994 230049 neu Catrin Roberts 01269871871. Cyfarfodydd Grawys yr Ofalaeth
Unwaith eto eleni mae aelodau'r Ofaaeth yn dod ynghyd i astudio'r Gair a myfyrfio - y tro hwn ar sail y llyfr a'r fideo The 24 hours that changed the world gan Adam Hamilton. Trwy'r fideo cawn weld rhai o'r mannau yn Jerwsalem sy'n gysylltiedig gyda 24 awr olaf bywyd Iesu. Cynhelir y cyfarfodydd mewn tair canolfan - nos Lun yn Llanddarog am 7.00pm, ar y cyd gydag Eglwys Sant Twrog, bryhawn Mawrth yn Soar Pontyberem am 2.00pm, ac am 12.00 yn festri Capel y Drindod, Cross Hands. Encil Gweddi yr Henaduriaeth
Braf oedd gweld cymaint wedi dod ynghyd i geisio'r Arglwydd ac i eiriol dros eraill yn neuadd Llanarthne ar Fehefin 14, 2014. Wedi defosiwn gyda'n gilydd gwahoddwyd pawb i ddefnyddio'r gorsafoedd gweddi oedd wedi eu creu o amgylch yr adeilad. Treuliwyd awr mewn distawrwydd a gweddi. Bydd yr encil nesaf ar brynhawn Gwener, Ionawr 16, 2015. |
|
Encil Gweddi
Wedi cynnal Encil Gweddi am y tro cyntaf yr haf diwethaf, arweiniwyd Henaduriaeth Myrddin i gynnal cyfarfod tebyg brynhawn Gwener, Ionawr 17, 2014 yn neuadd bentref Llanarthne. Anfonwyd gwahoddiad i holl eglwysi’r Henaduriaeth ac eglwysi lleol eraill i ddod ynghyd i dreulio awr a hanner mewn gweddi – gweddi a myfyrdod personol, eiriolaeth dros unigolion a sefyllfaoedd, a gweddïau dros eglwys Iesu Grist yn lleol, cenedlaethol ac yn fyd-eang. Roedd lle i weddi dawel ac i’r weddi gyhoeddus, a dangoswyd clipiau ffilm oedd yn ysgogi gweddïau pellach. Buan iawn yr aeth yr amser a’r rhai a fu yno yn tystio i’r fendith a gaed. Yn y llun fe welwch ddau damaid o ‘pipecleaners’ chenille wedi eu lapio am ei gilydd. Gwahoddwyd pawb i gadw’r gwaith crefft hwn yn yr amlwg yn eu cartrefi – i’w hatgoffa o’r angen am i ni ofyn i’r Ysbryd Glân lapio ei hun o amgylch ein gweddïo, ac hefyd fel arwydd gweledol o’r modd y mae ein gweddïau yn lapio o amgylch unigolion, sefyllfaoedd a gwaith yr Eglwys heddiw