Mae deg eglwys yn perthyn i Ofalaeth y Gwendraeth a
Ddechrau 2012 ehangwyd yr Ofalaeth wreiddiol o 6 eglwys yn Ofalaeth o 9 eglwys o dan arweinyddiaeth tim gweinidogaethol Ifan a Catrin Roberts. Yna, ar ddiwedd 2018, ffurfiwyd gofalaeth newydd yn cynnwys eglwys Babell Zion Newydd, Caerfyrddin, a Capel Hendre. Datgorfforwyd Capel y Tabernacl, Pontiets,un o eglwysi'r Ofalaeth wreiddiol yn ystod 2018. Yn dilyn ymddeoliad y Parchedigion Ifan a Catrin Roberts ar ddiwedd 2018, mae'r Ofalaeth yn ceisio gweinidog newydd. Bydd yr Ofalaeth hefyd yn derbyn gwasanaeth gan Gynorthwy-ydd Gweinidogaethol - a bydd mwy o wybodaeth am hyn yn ymddangos ar y wefan hon cyn hir. Ymddeoliad Gweinidogion
Ar brynhawn Sul, Rhagfyr 31, cynhaliwyd oedfa gollwng i'r Parchedigion Ifan a Catrin Roberts wedi saith mlynedd o wasanaeth yn yr Ofalaeth. Roedd y cyfarfod o dan ofal Llywydd yr Henaduriaeth. Diolchwyd yn ddiffuant i Ifan a Catrin am eu gwaith gan Mrs Joy Williams, Pontyberem, ac ymatebodd Ifan ar ran y ddau. Cyn hyn yr oedd cinio diolch wedi ei gynnal yn neuadd y Tymbl. ar ddiwedd Tachwedd. Mae Ifan a Catrin am ddiolch i eglwysi'r Ofalaeth am eu croeso ac am y cydweithio sydd wedi bod dros gyfnod eu bugeiliaeth - y cyfan er hyrwyddo gwaith yr Efengyl. Byddant yn ymgartrefu yn Radur, Caerdydd wedi ymddeol. Parchedig Ifan Roberts
a'r Parchedig Catrin Roberts |
Cwm GwendraethMae’r capeli wedi eu lleoli ar hyd a lled Cwm Gwendraeth, cwm
prydferth yng nghanol Sir Gaerfyrddin. Mae llawer yn cysylltu’r Cwm gyda’r diwydiant glo ac enwau adnabyddus gweithfeydd megis Cynheidre a Phentre Mawr, ac erys dylanwad y gweithfeydd hyn yn ardal y Gwendraeth Fawr er bod y pyllau wedi hen gau. Ond ceir hefyd ardal wledig ac amaethyddol yn y Gwendraeth Fach, ac yma y cewch hyd i Ardd Fotaneg Cymru. Mae nifer y siaradwyr Cymraeg yn uchel yn y Cwm, ac mae eglwysi’r Ofalaeth yn cynnig man addoli a chyfle i bobl o bob oed dyfu yn y ffydd Gristnogol trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd croeso yn aros unrhyw un sydd am ymuno â ni. Newydd ar y wefan! Arweinyddion newydd Clwb Sbri a Clwb J.A.M. - gweler Pontyberem a Penygroes Corwynt Cariad - y cyfanswm ar hyn o bryd |
This is the website of the Gwendraeth Pastorate of the
Presbyterian Church of Wales, a group of 10 churches situated in the Gwendraeth Valley, Carmarthenshire |
Eglwys Bresbyteraidd CymruOs am ddysgu mwy am hanes a bywyd Eglwys Bresbyteraidd Cymru cliciwch ar www.ebcpcw.org.uk
|
Nid yw'r wefan hon wedi ei chwblhau eto - bydd mwy o wybodaeth yn ymddangos dros y misoedd nesaf.
|