LLONGYFARCHIADAU!
Erbyn hyn mae dros £230,000 wedi dod i mewn gan eglwysi Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Diolch i bawb am eu cefnogaeth. Cyflwynir siec i Gymorth Cristnogol yn ystod y Gymanfa Gyffredinol ym mis Gorffennaf. Wedi ychwanegu Rhodd Gymorth at y swm, mae'n debyg y byddwn wedi cyrraedd chwarter miliwn o gasgliad - ie £250,000
Beth ydy Apêl Viva Guatemala?
Ar hyn o bryd mae eglwysi’r Ofalaeth yn casglu arian ac yn cynnal gweithgareddau codi arian tuag at waith Cymorth Cristnogol yn Guatemala. Bydd yr arian yn cefnogi amrywiol brosiectau megis
cynllun hyfforddi teuluoedd i dyfu gerddi llysiau i ddarparu bwyd maethlon i’w teuluoedd
cynllun amddiffyn a rhybudd rhag stormydd a llifogydd
ymgyrch dros sefydlu system dreth deg, gyda chwmniau mawr yn talu’r trethi sy’n ddyledus ganddynt.
cynllun drama a sgiliau carnifal ar gyfer plant ac ieuenctid y brifddinas Guatemala City lle mae diwylliant gangiau, torcyfraith a thrais yn rhemp.
Gofynnir i bob aelod gyfrannu £1 y mis yn ystod 2012, cyfanswm o £12. Eisoes mae pob eglwys wedi cael cyfle i weld y cyflwyniad PowerPoint am yr Apêl