Arweinydd newydd i'r Clwb
Newyddion da!
Wedi ymddeoliad arweinydd Clwb J.A.M. ers ei gychwyn, Catrin Roberts, mae'r clwb yn parhau i gyfarfod o dan arweiniad mam leol sef Cerian Hughes. Gyda chymorth y gwirfoddolwyr o'r gwahanol eglwysi bydd y gwaith o rannu Efengyl Iesu gyda phlant yr ardal yn parhau.
Cofiwch bod angen gweddi dros yr arweinydd, a'r gwaith!
Newyddion da!
Wedi ymddeoliad arweinydd Clwb J.A.M. ers ei gychwyn, Catrin Roberts, mae'r clwb yn parhau i gyfarfod o dan arweiniad mam leol sef Cerian Hughes. Gyda chymorth y gwirfoddolwyr o'r gwahanol eglwysi bydd y gwaith o rannu Efengyl Iesu gyda phlant yr ardal yn parhau.
Cofiwch bod angen gweddi dros yr arweinydd, a'r gwaith!
Clwb J.A.M.
Wedi clywed am angen pobl yn Affrica wrth ddysgu am waith Cymorth Cristnogol penderfynodd aelodau Clwb JAM i gynnal noson o chwarae pel-foli balwn er mwyn prynu rhwydi atal mosgitos. Cafwyd noson llawn hwyl a chodwyd digon o arian i brynu rhwydi i amddiffyn 9 teulu yn Affrica. Diolch i bawb am y gefnogaeth. Clwb JAM
Brenhinoedd y Beibl oedd thema'r tymor - Solomon, Ahab, Joseia, Darius a Herod. Roedd ras wythnosol rhwng y timau ar gerbyd y brenin yn hwyl a sbri. Daeth y tymor I ben gyda dathliad Nadolig gyda'r pwyslais ar fwyd a gemau! Bydd y tymor newydd yn cychwyn ar Ionawr 7fed, 2016. |
Mae Clwb JAM y tymor hwn wedi bod yn dilyn hynt a hanes Pencampwriaeth rygbi'r Byd, ac yn dysgu am y Beibl wrth wneud hynny. Clywsom am Paul yn trosglwyddo o'r Tim Na i'r Tim Ie, a dysgu am reolau Duw ac fel mae Iesu yn ein rhyddhau'r o'r 'sin bin'. Rhaid cadw'n ffit, a'r ffordd i wneud hynny yw trwy ddarllen y Beibl, gweddi ac addoli. Daw anafiadau I rai, a gwelsom Iesu y Meddyg Da wrth ei waith gyda'r claf o'r parlys a Bartimeus dall. Chwarae rygbi a dysgu - beth allai fod yn well!
|
CLWB JAM
Mae'r tywydd braf wedi cyrraedd, ond mae aelodau Clwb Jam yn parhau i ddod i festri Calfaria ar brynhawn Iau i ddysgu beth sydd yn y Beibl. Y tymor hwn rydym yn dilyn hanes Pedr wedi'r Atgyfodiad. Mae pob sesiwn yn cychwyn gyda chystadleuaeth sillafu enw Pedr mewn gwahanol ffyrdd - trwy ddefnyddio darnau o bapur, ceiniogau, darnau o wlan, cyrff (!) a mwy. Mae'n hwyl i'r timau gystadlu yn erbyn ei gilydd. Yna rydym yn clywed gwahanol hanesion am Pedr - hanes yr Iesu atgyfodedig yn dangos iddynt lle i ddal llawer o bysgod ac yn maddau i Pedr am ei wadu; hanes Pedr a'i ffrindiau yn gweld Iesu yn mynd yn ol at Dduw i'r nefoedd; hanes dydd y Pentecost; hanes Pedr ac Ioan yn helpu dyn cloff yn Jerwsalem...........etc |
CLWB JAM
Mae'r plant yn parhau i ddod i glwb JAM. y tymor hwn buom yn dilyn cyfres o'r enw C + C sef Cwch a Cherdded, cyfle i gerdded neu rwyfo mewn cwch gyda Iesu ar ddechrau pob sesiwn ac yna clywed beth ddigwyddodd. Clywsom am hanes galw'r disgyblion, y storm ar y mor, iachau'r deg gwahanglwyf, Iesu'n cerdded ar y mor, a mwy. A ninnau o fewn ychydig i'r Pasg, byddwn yn cerdded gyda Iesu ar y daith i Jerwsalem gan gychwyn gyda hanes Sul y Blodau. CLWB JAM
Mae hyd at 20 o blant wedi bod yn dod i glwb JAM ers dechrau'r tymor yn Medi. Rydym wedi bod yn dilyn hanes Dafydd, a gan fod Dafydd yn arbenigwr mewn taflu, mae pob sesiwn wedi dechrau gyda chyfle i gystadlu ar daflu - taflu dartiau, taflu bagiau ffa i bwced, taflu at skittles. Cafwyd hyd yn oed cyfle i geisio taflu gyda ffon dafl! Rhwng stori, gemau, crefft, dysgu adnod, canu, diod a bisged, mae'r amser yn mynd yn gyflym iawn. |
Clwb JAM
Mae aelodau'r clwb dros y mis diwethaf wedi bod yn dilyn hanes rhai o deithiau Paul a'r gwaith a wnaeth wrth rannu'r newydd da am Iesu Grist. Bu'r plant yn cystadlu ar ddechrau bob sesiwn wrth daflu awyren bapur - er mwyn cyrraedd Damascus, Philipi, Athen a Rhufain!
Bydd y clwb yn cymryd seibiant dros fisoedd yr haf, ond yn ail agor ym mis Medi. Diolch i bawb am eu cefnogaeth a'u cymorth.
Mae aelodau'r clwb dros y mis diwethaf wedi bod yn dilyn hanes rhai o deithiau Paul a'r gwaith a wnaeth wrth rannu'r newydd da am Iesu Grist. Bu'r plant yn cystadlu ar ddechrau bob sesiwn wrth daflu awyren bapur - er mwyn cyrraedd Damascus, Philipi, Athen a Rhufain!
Bydd y clwb yn cymryd seibiant dros fisoedd yr haf, ond yn ail agor ym mis Medi. Diolch i bawb am eu cefnogaeth a'u cymorth.
Clwb J.A.M
Rydym yn parhau I ddysgu hanesion o'r Beibl wrth fynd yn ein dychymyg i Ganolfan Siopa Canaan. Yn y llun gwelir Caradog a fu'n helpu dweud hanes Eliseus a'r cigfrain (Siop Bwydydd Bethel). Rydym hefyd wedi diiyn hanes Jona (Siop Anifeiliaid Asdod), a byddwn yn mynd i Siop Fferyllfa Philistia cyn hir. |
Clwb JAM
Erbyn hyn mae'r Clwb yn edrych ar wahanol hanesion o'r Beibl o dan y thema Canolfan Canaan - sef Canolfan Siopa arbennig iawn! Wrth fynd trwy ddrysau'r siopau rydym yn cael mynediad at wahanol gymeriadau o'r Ysgrythur. Siop Tudalennau Tyrus oedd y gyntaf - ac yno daethom ar draws hanes Solomon, ei ddoethineb a'i lyfr Diarhebion. Rhoddwyd copi o Efengyl Marc (fersiwn beibl.net) i bob un o fynychwyr y Clwb. |