Arweinydd newydd Clwb Sbri
Braf yw dweud bod y Clwb sbri yn parhau ac yn wir yn mynd o nerth i nerth o dan law arweinydd newydd.
Wedi ymddeoliad y Parchg Catrin Roberts, mae Elin Partridge, o Lanelli, wedi dechrau ar y gwaith o gynnal y clwb gyda chymorth gwirfoddolwyr o Soar. Diolch iddi am ei hymroddiad a boed bendith Duw ar y gwaith o rannu'r Beibl a newyddion da'r Iesu gyda phlant cynradd yr ardal.

Pantycelyn + Pilipinas
Ar nos Fercher, Mawrth 15fed cynhaliwyd cyfarfod arbennig o dan nawdd Capel Soar a Chymdeithas Hanes Cwm Gwendraeth i ddathlu trichanmlwyddiant geni William Williams, Pantycelyn. Daeth tyrfa gref i Gapel Soar i wrando ar yr Athro E. Wyn James, Caerdydd a’r Athro Mererid Hopwood yn traethu am allu rhyfeddol y llenor hwn i grynhoi ei brofiad fel Cristion mewn emynau a ffurfiau llenyddol eraill. Gwrandawyd ar Iwan Thomas, Pontantwn, un o ddisgynyddion Pantycelyn a’r ddeuawd Gwenda a Geinor yn canu, gyda’r gynulleidfa hefyd yn cael cyfle i ganu geiriau’r emynydd gyda Marina Ambrose wrth yr organ. Yr oedd Cecil a Cynthia Williams sy’n byw heddiw ym Mhantycelyn hefyd yn bresennol. Yn y llun fe welwch yr hyn a oedd ar y bwrdd Cymun yn ystod y cyfarfod – mat bwrdd a lluniau o’r pêr ganiedydd, yn cysylltu’r Pilipinas (ac apêl Corwynt Cariad) a Pantycelyn. |
Croesawu'r Dieithriad i'n plith: Ar nos Lun, Chwefror 27 cynhaliwyd cyfarfod arbennig yn neuadd Pontyberem i groesawu'r teuluoedd o Syria sydd wedi gorfod ffoi o'u gwlad a chwilio am ddiogelwch. Mae dau deulu wedi symud i Bontyberem, ac maent yn dechrau setlo yn ein plith, gan ddechrau dysgu Saesneg, a gobeithio (mewn amser) Cymraeg. Wrth ymateb yn ystod y cyfarfod, tystiodd un o'r ffoaduriaid yn emosiynol eu bod yn gwerthfawrogi'r cyfeillgarwch a'r croeso a brofwyd ganddynt. Daeth nifer o aelodau Soar i'r cyfarfod i fod yn rhan o'r croeso.
|
Corwynt Cariad: Cyflwynwyd y prosiectau fydd yn cael eu cefnogi trwy ein casgliadau eleni at waith Cymorth Cristnogol mewn oedfa arbennig yn ystod Chwefror. Dangoswyd cyflwyniad pwynt pwer arbennig. Mae un o'r prosiectau, prosiect Baseco wedi derbyn cefnogaeth wrth i eglwysi brynu mat Bwrdd Cymun sydd wedi ei greu gan gwmni sy'n ailgylchu defnyddiau plastig. Mae Chwiorydd Soar wedi prynu un o'r matiau ar gyfer y capel.
|
Dyma rai o ddigwyddiadau Nadolig 2016!
Ar y chwith pellaf gwelir Tim Agor y Llyfr yn eu gwisgoedd yn barod i gyflwyno hanes y Geni a'r bugeiliaidd i blant yr Ysgol Uwchradd. Ac yna yn yr ail lun gwelir rhai o'r gynulleidfa ddaeth ynghyd yn Soar ar y Sul Nadolig ac a fu'n gwisgo penwisgoedd y cymeriadau canolog. Cawsom ein herio i weld fod Duw angen pobl debyg i Mair, y bugeiliaid a'r doethion heddiw yng Nghymru |
Cinio Nadolig y Chwiorydd 2016
Hyfryd oedd dod ynghyd ddechrau Rhagfyr yn y New Inn i gael cinio gyda'n gilydd. Bwyd blasus a sgwrsio prysur - a gwen ar wyneb pawb!
Hyfryd oedd dod ynghyd ddechrau Rhagfyr yn y New Inn i gael cinio gyda'n gilydd. Bwyd blasus a sgwrsio prysur - a gwen ar wyneb pawb!
Cwis Blynyddol Cymdeithas y Chwiorydd
Gyda r Robert Davies fel cwisfeistr, cynhaliwyd yr ornest flynyddol rhwng y dynion a'r merched ar nos Fawrth, Tachwedd 1af. Roedd hi'n frwydr agos, ond y dynion a orfu yn y diwedd. Llongyfarchiadau iddynt! Yn ystod y lluniaeth a ddilynodd, llongyfarchwyd Mrs Bet Ambrose ar ddathlu ei phenblwydd yn 90 oed, a chyflwynwyd cacen fel rhan o'r dathliadau. |
Cynllun Agor y Llyfr:
Mae Agor y Llyfr yn gynllun gan Gymdeithas y Beibl lle mae aelodau eglwysi lleol yn cyflwyno hanesion y Beibl mewn ffordd weladwy a bywiog yn eu hysgol gynradd leol. Mae'r grwp sydd wedi ei ffurfio ym Mhontyberem yn cynnwys aelodau o Soar, Caersalem, Eglwys Sant Ioan, Eglwys y Groes a Chapel Pisgah Bancffosfelen. Dechreuodd y gwaith mewn gwasanaeth yn ystod Medi pryd y cyflwynwyd hanes y Creu i'r disgyblion. Diolch i'r Ysgol a'r Pennaeth am bob cydweithrediad. Yn y llun fe welwch Adda ac Efa a holl elfennau'r Creu! |
Agor y Llyfr
Mae grwp o aelodau capeli ac eglwysi Pontyberem yn paratoi ar hyn o bryd i sefydlu grwp Agor y Llyfr. Beth ydy hynny? Cynllun lle mae Cristnogion lleol yn mynd i mewn i'r ysgol gynradd i gyflwyno hanesion y Beibl i'r plant. Adroddir y stori tra mae rhai yn actio'r stori'n syml a dod a'r Beibl yn fyw! Y gobaith yw dechrau ar y gwaith ym mis Medi. Os oes mwy ag awydd ymuno, dewch i gysylltiad. |
Clwb Sbri yn codi arian:
Ar ôl iddynt dreulio rhai wythnosau yn y Clwb yn dysgu am waith Cymorth Cristnogol, penderfynodd aelodau Clwb Sbri eu bod am wneud rhywbeth i godi arian. Penderfynwyd cynnal noson noddedig yn chwarae pêl foli balŵn! Yn anffodus doedd hanner y plant ddim yn hwylus ar y noson, ond mawr oedd yr hwyl wrth ddal ati i daro’r balŵn dros y rhwyd am 60 munud (a chael ychydig o orffwys i chwilio am wyau Pasg yn y capel hanner amser. Nid yw’r arian i gyd wedi dod i mewn eto, ond bydd y cwbl yn mynd i brynu rhwydi atal mosgitos yn Affrica. |
Diolch ac anrhegu: Hyfryd oedd cyfarfod mewn oedfa i’r teulu ar y Sul cyntaf o Fawrth ac addoli gan ddilyn y thema Dewi, Joseia a’r Beibl byw. Yn ystod yr oedfa cyflwynwyd rhodd i ddau o flaenoriaid ffyddlon yr eglwys, sef Mr Eurwyn Evans a wasanaethodd fel trysorydd yr eglwys ers 46 o flynyddoedd, a Mr Roy Harris sydd wedi gofalu am dir yr eglwys am gyfnod maith hefyd. Wrth iddynt ymddeol o’u gwaith, diolchwyd iddynt am eu ffyddlondeb. Bydd Mrs Marina Ambrose yn cymryd drosodd fel Trysorydd a Mr Wyn Harris yn gofalu am yr adeiladau gyda chymorth eraill.
|
Cymdeithas y Chwiorydd a fish+chips!
Daeth pawb i gyfarfod y mis bach gyda gweill ac edafedd, yn barod i weu siwmperi a hetiau fish + chips! Pam fish a chips? Am fod babanod newydd-anedig mewn rhai ardaloedd o Affrica yn cael eu hanfon adref o'r ysbyty mewn papur newydd gan nad yw'r rhieni yn gallu fforddio dillad iddynt. Penderfynodd y chwiorydd ymuno yn yr ymgyrch i ddarparu dilladau bach ar gyfer y babanod hyn. |
Tecwyn a beibl.net i blant
Cafodd y Gweinidog a rhai o flaenoriaid Soar gwmni cyfaill arbennig iawn wrth iddyn nhw gyflwyno copi o beibl.net i bob dosbarth yn Ysgol Pontyberem. Daeth Tecwyn y Tedi yno i'w cynorthwyo - ac fe gafodd Tecwyn gopi personol o'r Beibl fel anrheg. Roedd Tecwyn mor falch bod llun o'r deulu ar y dudalen sy'n adrodd hanes arch Noa! |
Nadolig 2015
Cynhaliwyd Oedfa Deulu y Sul cyn y Nadolig a braf oedd croesawu teuluoedd Clwb Sbri a'r Ysgol Sul yno. Cyflwynwyd hanes Bethlehem, y Bugeiliaid a'r Angylion trwy gyfrwng ffilm. Fel y gwelwch o'r llun, bu'r plant yn rhan o'r addoli, gan ddefnyddio masgiau i gyflwyno gwahanol gymeriadau hanes geni'r Iesu. Yn ystod yr oedfa cyflwynwyd copi o'r beibl diweddaraf i blant, beibl.net , i'r plant oedd yn bresennol. Roedd awyrgylch hyfryd yn yr oedfa ac yn y festri wedyn wrth i bawb gymdeithasu dros baned a mins pei. A diolch i Sion Corn am ddod heibio yng nghanol ei brysurdeb. |
Clwb Sbri: Dilyn hanes Pencampwriaeth Rygbi'r Byd, chwarae gemau rygbi er mwyn gwella ein sgiliau, a dysgu beth mae'n ei olygu Iifod yn rhan o Dim Duw. Eisoes clywsom am hanes Paul, y Claf o'r Parlys, Dameg yr Ymwelydd ddaeth yn ystod y nos, Sacheus (yn y sin bin!) Bartimeus, a Dameg y Morynion Priodas. Croeso i unrhyw ddisgybl ym Mlwyddyn 2-6 ymuno gyda ni a chael hwyl a sbri!
|
Cymdeithas y Chwiorydd: Agorodd y tymor 2015-2016 wrth groesawu Mr Wyndham Lewis i ddangos ffilm o'i waith. Aeth rhai o'r gynulleidfa yn ol mewn amser i'r diwrnod yr agorwyd gardd goffa Pontyberem, Iigofio'r rhai fu farw yn y gwaith glo. Y tro nesaf byddwn yn cynnal yr ornest flynyddol sef Cwis rhwng y Dynion a'r Mercher (dydd Mercher, Tachwedd 4ydd - sylwer ar y newid noson)
Clwb Sbri,
Y tymor hwn buom yn dilyn hanes Iesu wrth deithio naill ai ar gwch neu ar droed. Cafwyd pob math o weithgareddau hwyliog a'r cyfan yn seiliedig ar y Beibl. Erbyn hyn yr ydym yn dechrau edrych ar hanes y Pasg gan ddechrau gyda hanes Sul y Blodau. Gwasanaeth Mawrth 1af
Hyfryd oedd arweiniad y plant a'u mamau i'r oedfa ar fore Sul Mawrth 1af. Cawsom gyfle i ddiolch am fywyd a gwaith Dewi, a chlywed fel y mae'r Iddewon yn cynnal dathliad i gofio am fywyd a gwaith Esther ar ddechrau Mawrth. Gweinyddwyd swper yr Arglwydd yn ystod yr oedfa. Wedi'r addoli, cafwyd blas a ddisglaid ac ychydig o fwyd traddodiadol y Cymry yn y frestri |
Gwasanaeth Nadolig
Ar fore Sul Rhagfyr 21ain, fe'n harweiniwyd at y preseb gan blant yr Ysgol Sul, gyda chymorth rhai oedolion. Roedd yn wasanaeth hyfryd. Ar ddiwedd y cyfarfod, daeth Santa i ymweld, ac yna mwynhawyd paned a mins peis, gyda'r rhoddion am y lluniaeth yn mynd tuag at apel Nadolig Cymorth Cristnogol, |
Clwb Sbri:
Mae'r clwb wedi bod yn dilyn hanes Ioan Fedyddiwr, a geni Iesu Grist y tymor hwn. Yn y lluniau fe welwch bypedau a waned gan y plant i gyflwyno hanes geni Iesu Grist
Mae'r clwb wedi bod yn dilyn hanes Ioan Fedyddiwr, a geni Iesu Grist y tymor hwn. Yn y lluniau fe welwch bypedau a waned gan y plant i gyflwyno hanes geni Iesu Grist
CLWB SBRI
Mae Clwb Sbri wedi bod yn dilyn hanes Dafydd y tymor newydd hwn - digon o hwyl a sbri wrth wrando, cystadlu (ie, gyda ffon dafl!), canu gwneud crefft, a bwyta ambell i beth hyfryd!. Os gwyddoch chi am blant Blwyddyn 2-6 fyddai'n hoffi ymuno gyda ni, rhowch wybod iddyn nhw - 4.15p.m. ar nos Fawrth yn festri Soar. |
GWASANAETH DIOLCHGARWCH
Cynhaliwyd gwasanaeth Diolchgarwch gyda chymorth yr Ysgol Sul ar Hydref 5ed. Codwyd cwt bach yn y capel i'n hatgoffa o arfer yr Israeliaid i gadw Gwyl y Pebyll i gofio am gynhaliaeth Duw.
Cynhaliwyd gwasanaeth Diolchgarwch gyda chymorth yr Ysgol Sul ar Hydref 5ed. Codwyd cwt bach yn y capel i'n hatgoffa o arfer yr Israeliaid i gadw Gwyl y Pebyll i gofio am gynhaliaeth Duw.
Clwb Sbri
Bu aelodau'r Clwb yn dilyn hanes teithiau Paul dros yr wythnosau diwethaf - buont ar daith i Ddamascus, Philipi, Athen a Rhufain, yn chwarae gemau ar sail hanesion y Testament Newydd a dysgu sut y daeth newyddion da Iesu i Gymru. Diolch i'r plant am eu cefnogaeth ac i'r cynorthwywyr hwyliog am eu help. Cafodd pawb fwynhau hufen ia yng nghyfarfod olaf y Clwb.
Byddwn yn ail agor ddechrau Medii - anfonir gwybodaeth i'r teuluoedd trwy garedigrwydd yr ysgol.

Chwiorydd y Dosbarth yn cyfarfod
Daeth rhai o chwiorydd Dosbarth y Gwendraeth ynghyd i festri Soar ar ddydd Mawrth, Ebrill 29ain i wrando ar brofiadau Ms Gwawr Davies (myfyrwraig nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe) yn dweud hanes ei thaith i Shillong, Gogledd Ddwyrain yr India. Dangosodd sleidiau hefyd i roi blas ar waith yr ysbyty a gychwynwyd gan genhadon Eglwys Bresbyteraidd Cymru flynyddoedd lawer yn ol.
Wrth drafod dros baned a baratowyd gan chwiorydd Soar, daethpwyd i'r penderfyniad na ellid parhau gyda'r cyfarfod hwn oherwydd diffyg niferoedd ac felly ni chynhelir y cyfarfod hwn i'r dyfodol. Diolchwyd am bob cefnogaeth a'r holl waith dros y blynyddoedd.

CYMDEITHAS Y CHWIORYDD - Y CWIS BLYNYDDOL!
Eleni eto cynhaliwyd yr ornest flynyddol rhwng brodyr a chwiorydd y capel o dan law cadarn y cwisfeistr, Robert Davies. A'r tro hwn y menywod a orfu! Llongyfarchiadau i bawb a diolch i'r rhai fu'n paratoi'r wledd a gafwyd ar ddiwedd y noson llawn hwyl a sbri
|
|
Clwb Sbri!
Y tymor hwn rydym wedi bod yn dilyn y thema WAW!!! ac yn edrych ar gwyrthiau Iesu yn Efengyl Ioan, gwyrthiau sy'n gwneud i ni ddweud WAW! wrth feddwl am allu Iesu. Yn y lluniau mae 'coasters' a wnaed wedi i ni glywed hanes Iesu yn troi dwr yn win yn y briodas yng Nghana, model o Lazarus, y dyn wnaeth Iesu ei atgyfodi o'r marw'n fyw, ac enw Iesu mewn braille, ein gwaith crefft wedi clywed am Iesu yn iachau'r dyn dall. Mae digon o hwyl i'w gael wrth i ni ddysgu am y Beibl yn y Clwb! |
Grawys a'r Pasg
Diolch I bawb am eu cefnogaeth i'r Astudiaethau Beiblaidd dros gyfnod y Grawys.
Daeth yr Ofalaeth ynghyd ar brynhawn Sul y Pasg I ddathlu Atgyfodiad Iesu a chofio am ei aberth wrth Fwrdd y Cymun.
Daeth yr Ofalaeth ynghyd ar brynhawn Sul y Pasg I ddathlu Atgyfodiad Iesu a chofio am ei aberth wrth Fwrdd y Cymun.
Ethol Blaenoriaid Newydd
Llongyfarchiadau i Mrs Marina Ambrose a Mr Wyn Harries ar gael eu hordeinio yn flaenoriaid.
Diolch a Dewi Sant
Ar Fawth 3ydd cynhaliwyd gwasanaeth i ddathlu ac i ddiolch am waith Dewi Sant yn rhannu Efengyl Iesu Grist. Arweiniwyd yr oedfa gan aelodau'r Ysgol Sul a Chlwb Sbri. Daeth Owie'r Owen i gyflwyno neges am Dewi!
Cawl a Chymdeithas
Daeth tymor y Chwiorydd i ben am eleni gyda phryd o fwyd blasus o gawl a bara brith yn y New Inn. Diolch i bawb am eu cefnogaeth, ac i'r swyddogion am eu gwaith.
50 mlynedd oed!
Llongyfarchiadau i'r Cwrdd Chwiorydd ar ddathlu 50 mlynedd ers ei sefydlu. Daeth pawb ynghyd ar Ragfyr 4ydd am bryd o fwyd i ddathlu'r Nadolig, a'r penblwydd. Wrth dorri'r gacen ddathlu diolchodd y Parchg Catrin Roberts am gyfraniad y chwiorydd dros y blynyddoedd ac am eu ffyddlondeb i waith y deyrnas
Casgliad at waith Cymorth Cristnogol:
Mae'r aelodau wedi cwblhau eu casgliad at Viva Guatemala.
Diolch i bawb am eu haelioni
Mae dros £230,000 wedi ei gasglu gan eglwysi Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Mae'r aelodau wedi cwblhau eu casgliad at Viva Guatemala.
Diolch i bawb am eu haelioni
Mae dros £230,000 wedi ei gasglu gan eglwysi Eglwys Bresbyteraidd Cymru.