Diolch!
Ie, diolch o galon i'r holl eglwysi am eu cefnogaeth i'r Apel. Nid yw'r holl arian wedi dod i law eto, ond fe welwch o'r llun uchod beth yw'r cyfanswm hyd yma. Cyflwynir siec I Gymorth Cristnogol ar ran aelodau EBC i gefnogi'r gwaith yn y Pilipinas yn y Gymanfa Gyffredinol ddechrau Gorffennaf.
Chi eglwysi sydd wedi prynu mat o'r Pilipinas, daliwch ati i arddangos y mat ar eich bwrdd Cymun - bydd yn ein hatgoffa o'r cysylltiad, a'r angen i ddal ati i gofio am bobl y Pilipinas mewn gweddi.

Gweddi’r Apêl
O Dduw ein Tad,
Diolchwn i Ti am y cariad ymarferol a ffrwydrodd o’th galon ym mherson Iesu. Ar y groes, ceraist ti ni mewn gweithred a gwirionedd. Dyro i ninnau allu caru cymunedau tlawd y Pilipinas yn yr un modd.
Rho i ni lygaid agored i weld y tlawd, yn lle eu hanwybyddu. Rho i ni ddwylo agored i ymestyn tuag at y tlawd, yn lle eu cau yn eu herbyn. Rho i ni leferydd agored i eiriol dros y tlawd gyda’r grymus, yn lle mudandod ac ofn.
Clyma dy eglwys yng Nghymru a chymunedau penderfynol y Pilipinas gyda rhwymyn dy gariad ymarferol Di.
Yn enw Iesu dy fab. Amen.

2017 - blwyddyn Corwynt Cariad
pryd y byddwn fel Cyfundeb yn casglu arian at waith Cymorth Cristnogol ar Ynysoedd y Philipinas. Aeth tair o'n haelodau draw yno ym mis Mehefin i weld y gwahanol bartneriaid sy'n derbyn nawdd trwy Gymorth Cristnogol er mwyn cynorthwyo'r trigolion yno. Tlodi, diffyg cyfleon addysg, effaith newid hinsawdd, perygl corwyntoedd a daeargrynfeydd - gallwn helpu gyda hyn oll trwy'n ein gwaith codi arian y flwyddyn nesaf. A;r nod? codi £14 + yr aelod. Mwy o wybodaeth i ddod cyn hir. |
Hydref 2015: Cerdded yn Aberhonddu a chodi dros £900 tuag at y gwaith
DIOLCH i bawb fu'n cefnogi digwyddiad Cerdded Waliau Jericho yn ystod penwythnos Cymorth Cristnogol yng Ngholeg Trefeca ddechrau Hydref. Bu Catrin yn cerdded gydag eraill o amgylch yr Eglwys Gadeiriol (fel symbol ein bod yn ceisio dymchwel muriau tlodi yn y byd). Trwy garedigrwydd pawb fu'n noddi nid yn unig Catrin ond gweddill y criw, ac oherwydd fod y Llywodraeth yn cyfrannu £1 am £1 tuag at waith Cymorth Cristnogol yn ystod cyfnod y Nadolig casglwyd dros £900. Ymdrech ardderchog. Diolch i bawb yn yr Ofalaeth a gyfrannodd. |
I nifer cynyddol o bobl ar draws y byd, mae erchyllterau rhyfel yn rhan o fywyd bob dydd.
Ond fe ellir gwneud newidiadau gwirioneddol i'w bywydau wrth i unigolion, cymunedau ac eglwysi gymryd rhan yn Wythnos Cymorth Cristnogol. Llynedd, unodd 20,000 o eglwysi ar draws Prydain ac Iwerddon i helpu codi £12m tuag at Wythnos Cymorth Cristnogol. Fedrwch chi ein helpu ni i wella ar hynny eleni? |
Gweddi ar gyfer Wythnos Cymorth Cristnogol 2014Am deithiau adref;
am gamau penderfynol tuag at heddwch; am obaith i drechu ofn; am garedigrwydd yn wyneb trais; am ddaioni a thrugaredd, hyd yn oed ynghanol erchylltra rhyfel. Am y torri bara a’r gweddïau; am rannu’r hyn sydd gennym, am y pethau hyn i gyd, rho i ni galonnau diolchgar a hael. Amen |
Trychineb! Ac angen cymorth!
Rydym i gyd wedi gweld y golygfeydd ar sgriniau ein teledu, ac wedi clywed cri pobl Ynysoedd y Philippines. Mae Cymorth Cristnogol wedi lansio apel er mwyn ymateb y angen y bobl yno wedi'r corwyntoedd. Byddwch yn hael! Gallwch anfon unrhyw gyfraniad at Swyddfa Cymorth Cristnogol yng Nghaerfyrddin ( 75 Heol Dwr, Caerfyrddin SA31 1PZ) neu i Swyddfa Caerdydd ( 5 Station Road, Radur, Caerdydd CF15 8AA)
Diolch am unrhyw gyfraniad

Penwythnos Cymorth Cristnogol, Hydref 11-13, 2013
Bwrlwm o addoli, dysgu, cymdeithasu, derbyn her , a llawer mwy – dyna a gafwyd yn ystod penwythnos Cymorth Cristnogol eleni gan ddilyn y thema Mae OS hefyd yn rhan o eirfa Duw. Cawsom gwmni ‘r Esgob Martin o Bwrwndi, gyda’i bersonoliaeth hyfryd a’i stori am orffennol tywyll ond presennol gobeithiol ei wlad yn creu argraff fawr ar fynychwyr y gynhadledd. Cafwyd hefyd gyfle i ddod i adnabod pennaeth newydd Cymorth Cristnogol yng Nghymru, Cathrin Daniel, a dysgu o’i phrofiad o weithio yn Bwrwndi ac yn Sierra Leone ar raglenni heddwch a gweld fel mae datrys sefyllfaoedd o wrthdaro yn allweddol wrth geisio datrys problem tlodi a newyn ein byd. Gan fod Cymorth Cristnogol wedi llunio astudiaethau Beiblaidd ar gyfer cyfnod yr Adfent arweiniwyd ni gan Anna Jane Evans trwy un o’r Astudiaethau ar Eseia 11. Un o staff ifanc Cymorth Cristnogol, Mari McNeill, oedd yn gyfrifol am sesiwn nos Sadwrn, sesiwn oedd yn cynnwys cwis a chyfle i drafod ymgyrchu dros y tlawd drwy waith Cymorth Cristnogol. Cawsom gwmni Llywydd y Gymanfa Gyffredinol, y Parchg Trefor Lewis, ac ef fu’n arwain ein haddoliad ar fore Sadwrn a’r gwasanaeth Cymun oedd yn cloi’r penwythnos. |
YMGYRCH OS
Mae newyn a diffyg bwyd yn y byd yn broblem enfawr, ac yn her fawr i ni. Mae un person o bob wyth ar y blaned hon yn byw gyda phoen newyn. Ac eto mae ein planed yn darparu digon o fwyd i bawb. Mae'n annheg, mae'n anghyfiawn - oherwydd mae modd gwneud rhywbeth am hyn. Mae angen i ni bwyso ar ein harweinwyr byd-eang i roi terfyn ar yr anghyfiawnder hwn wrth daclo pedwar OS....
Treth
OS wnawn ni rwystro cwmniau mawr rhag osgoi talu trethi mewn gwledydd tlawd bydd miliynau o bobl yn cael cyfle i ddatblygu ac osgoi angen
Cymorth
Os wnawn ni fuddsoddi arian er mwyn rhwystro pobl rhag marw o newyn, a chynorthwyo'r tlotaf i fwydo eu hunain. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i wario 0.7% o incwm y DU ar gymorth. Mae angen sicrhau y cedwir at yr addewid.
TIR
Os y gellir sicrhau nad yw ffermwyr tlawd yn cael eu gorfodi i adael eu tir, ac os defnyddir cnydau i fwydo pobl, nid i ddarparu tanwydd ar gyfer ceir. Mae ffermwyr tlawd y byd yn colli tir oherwydd cwmniau mawr.
Troloywder
Os y byddwn yn gorfodi llywodraethau a chwmniau mawr i fod yn onest ac yn agored am y modd y maent yn gweithredu. Mae penderfyniadau sy'n effeithio ar filiynau o bobl yn cael eu gwneud y tu ol i ddrysau caeedig.
Mae'r pedwar OS yma yn amodau mawr, ond rhaid pwyso ar ein harweinwyr i weithredu er mwyn gwireddu hyn.
Mae nifer fawr o fudiadau, gan gynnwys Eglwys Bresbyteraidd Cymru, a Henaduriaeth Myrddin wedi ymuno gydag ymgyrch OS.
Bydd y G8 yn cyfarfod yn yr Iwerddon ym mis Mehefin a byddwn fel ymgyrfh yn pwyso ar arweinwyr y G8 i ystyried a gweithredu ar yr uchod.
Beth am i chi ychwanegu eich enw at yr ymgyrch. Cliciwch ar y safle isod. Diolch
http://www.christianaid.org.uk/ActNow/if-enough-food/if.aspx